Chwilio am 12 artist newydd Gorwelion

Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi dechrau’r broses o chwilio am y 12 artist cerddoriaeth fydd yn ymuno â’r prosiect yn 2019.

Mae’r cynllun bellach wedi cyrraedd ei bumed blwyddyn o fodolaeth, ac wedi gweithio’n uniongyrchol gyda 48 o artistiaid newydd o Gymru gan roi cyfleoedd iddynt gyrraedd cynulleidfaoedd newydd yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r enwau Cymraeg dros y blynyddoedd wedi cynnwys Candelas, Kizzy Crawford, Casi, Fleur de Lys, Chroma, Danielle Lewis, Alffa a llawer mwy ac mae cyfle i 12 artist newydd ymuno â’r rhestr eto eleni.

Mae’r broses ymgeisio ar gyfer y rownd diweddaraf o artistiaid nawr yn agored.

Bydd y 12 ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth mewn gwahanol ffyrdd dros y 12 mis nesaf – gyda chyfleoedd i ymddangos mewn gwyliau a digwyddiadau, ar y radio gan gynnwys gwasanaethau cenedlaethol BBC Cymru Wales –  BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales ac ar gyfryngau cymdeithasol.

Arddangos doniau

Nod prosiect Gorwelion yw arddangos doniau addawol yng Nghymru.  Ymysg uchafbwyntiau’r pum mlynedd diwethaf yn cynnwys recordio yn Stiwdios Rockfield byd enwog yn Sir Fynwy, Maida Vale Studios yn Llundain a chydweithrediad unigryw gyda phartneriaid fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru sydd ar hyn o bryd yn arddangos cerddoriaeth un o artistiaid Gorwelion fel trac sain pêl-droed Cymru.

Yn ôl Gorwelion mae cynlluniau i weithio gyda phartneriaid newydd yn ogystal â dod â llu o artistiaid newydd a chyn-artistiaid Gorwelion at ei gilydd i greu eiliadau hynod arbennig trwy gydol 2019.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu 12 dawn gerddorol newydd i’r prosiect” meddai rheolwr cynllun Gorwelion  Bethan Elfyn.

“Yn y bumed flwyddyn hon byddwn yn mynd ati i ddathlu’r rôl a chwaraeir gan y prosiect; rydym yn falch o bopeth, o’r gwaith ar lawr gwlad i’r gwaith a wnawn ar y cydweithrediadau mwy, gan gynrychioli ystod eang o arddulliau, doniau, lleoliadau a chefndiroedd cerddorol amrywiol.”

Ar y bêl

Un o agweddau mwyaf llwyddiannus y cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf ydy’r bartneriaeth gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru lle mae caneuon artistiaid Gorwelion wedi eu defnyddio’n gefndir i becynnau fideo’r Gymdeithas.

Roedd esiampl o hyn wythnos diwethaf wrth i drac ‘Pla’ gan Alffa gael ei defnyddio fel cefndir i becyn uchafbwyntiau gemau dynion Cymru’n erbyn Trinidad a Tobago a Slofacia.

“Rydym yn gyffrous wrth ddechrau blwyddyn newydd gyda Gorwelion” meddai Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Pêl-droed Cymru.

“Mae cerddoriaeth a phêl-droed yn ddwy agwedd arbennig ar ddiwylliant Cymru ac rydym yn awyddus i gefnogi doniau newydd o Gymru yn y diwydiant cerdd drwy fod yn un o’r llwyfannau ar gyfer dod â cherddoriaeth at gynulleidfa ehangach.”

Sut i ymgeisio? 

Mae modd ymgeisio i fod ar y cynllun eleni rhwng 4 Ebrill a Hanner Nos, 1 Mai, a bydd cyhoeddiadau’n dilyn ym mis Mehefin.

Dylai artistiaid sydd eisiau cael eu hystyried lenwi ffurflen ar-lein ar wefan Gorwelion.

Bydd rhestr Gorwelion yn cael ei dewis gan banel o arbenigwyr yn y bartneriaeth ac yn y sector cerddorol ehangach.