Cloriau recordiau Cymraeg yn ysbrydoli tlysau Gwobrau’r Selar

Yn ôl yr artist sy’n gyfrifol am greu tlysau Gwobrau’r Selar eleni, cloriau recordiau bandiau cyfoes fel Sen Segur a Candelas sydd wedi ysbrydoli’r syniad ar gyfer y darnau celf unigryw.

Ers sawl blwyddyn bellach mae Y Selar yn cydweithio gydag adran Gelf a Dylunio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant gan gomisiynu artist neu artistiaid ifanc i greu’r gwaith celf ar gyfer y gwobrau.

Dili Pitt

Mae’r polisi wedi arwain at ddarnau diddorol ac unigryw o gelf bob blwyddyn, ond efallai mai’r gwobrau eleni, sydd wedi eu cynllunio gan yr artist Dili Pitt ydy’r mwyaf unigryw a thrawiadol eto.

Ac mae stori dda i’r cynllun lliwgar, sy’n rhoi arwyddocâd ychwanegol i’r tlysau eleni, fel yr eglura un o’i darlithwyr, Gwenllian Beynon.

“Wrth ymchwilio mae Dili wedi edrych ar cloriau celf cerddoriaeth Cymreig fel Bandana, Candelas, Sen Segur a Derwyddion Dr Gonzo” meddai Gwenllian, Cydlynydd y Gymraeg o fewn y gyfadran Gelf a Dylunio sydd wedi bod yn ganolog i’r cydweithio rhwng Y Selar a’r adran.

“Mae’r gwobrau’n lliwgar ac yn ddiddorol ac yn ddarnau o waith celf i’w trysori.

“Rwy’n hynod o falch bod Dili yn creu gwobrau eleni. Mae Dili yn un o’n myfyrwyr sydd yn astudio rhan o’i chwrs Sylfaen Celf a Dylunio drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Dathlu’r dyfodol disglair

Yn ôl yr artist ifanc addawol, mae’r profiad o greu’r gwobrau wedi bod yn un gwerth chweil iddi.

“Rwy’n hynod o falch fy mod i wedi cael y cyfle i greu Gwobrau’r Selar eleni ac rwy wir wedi mwynhau’r broses ymchwilio a’r broses creadigol,” meddai Dili.

“Mae popeth rwy’n creu yn lliwgar iawn, ac felly roeddwn am i’r gwobrau adlewyrchu hyn. Teimlaf fod gan y sawl nad ydynt yn gyfarwydd â’r sîn ryw ddisgwyliad arbennig ynglŷn â cherddoriaeth iaith Gymraeg – disgwylir iddi fod yn draddodiadol iawn ac yn hen ffasiwn. Mae’n hawdd i ni werthfawrogi’n gorffennol yn ormodol ar draul y dyfodol.

“Bwriedir i’r gwobrau hyn, gyda’u defnydd o liwiau, ddathlu’r dyfodol disglair a bywiog ein gwlad. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan gloriau albyms cyfoes, a gan y delweddiaeth mae’r bandiau’n dewis eu defnyddio.

“Rwy’n hoff o gasglu hen bethau sydd wedi cael eu defnyddio ac yna, cael fy ysbrydoli i’w hailddefnyddio mewn ffordd newydd a diddorol, a dyna sut rwy’n teimlo am y gystadleuaeth hon – defnyddio hen iaith yn y ffordd fwyaf cyfoes bosibl.”

Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar a threfnydd Gwobrau’r Selar, mae’r bartneriaeth gyda’r Adran Gelf a Dylunio’n un bwysig iawn i’r Gwobrau, ac mae’n falch iawn i allu rhoi cyfle i artistiaid ifanc wneud eu marc.

“Byddai’n rhwydd iawn i ni fynd ar-lein a phrynu rhyw dlysau cyffredin oddi-ar y silff ar gyfer Gwobrau’r Selar” meddai Owain Schiavone.

“Ond byddai hynny’n groes i ethos y digwyddiad hyn fy marn i, sef dathlu talent artistig ifanc a rhoi llwyfan amlwg i gelfyddyd – ar ffurf cerddoriaeth gyfoes yn bennaf wrth gwrs. Ond mae cyfle i ni roi llwyfan i waith celf gweledol yma hefyd gyda’r comisiwn, ac mae stori’r gwaith celf mae Dili wedi creu yn esiampl berffaith o ddau fath o gelf yn dod ynghyd i greu rhywbeth unigryw ac arbennig.

“Dwi’n siŵr bydd yr enillwyr yn gwerthfawrogi’r gwobrau’n fawr, a’r ddawn a gweledigaeth artistig sydd tu cefn iddyn nhw.”

Bydd cyfle i weld y gwobrau unigryw pan fyddan nhw’n cael eu cyflwyno yng Ngwobrau’r Selar ar nos Wener 15 Chwefror a nos Sadwrn 16 Chwefror. Bydd Dili Pitt ei hun ar y llwyfan hefyd, wrth iddi gyflwyno’r wobr mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn ei noddi, sef y wobr Cyfraniad Arbennig, i Mark Roberts a Paul Jones nos Wener.