Clwb Ifor yn Hyrwyddwr Annibynnol Gorau

Clwb Ifor Bach ddaeth i’r brig yng nghategori gwobr Hyrwyddwr Annibynnol Gwobrau’r Selar eleni.

Cyhoeddwyd y newyddion ar raglen Radio Cymru Huw Stephens heno (14 Chwefror).

Dyma’r diweddaraf o’r gwobrau i’w cyhoeddi ymlaen llaw eleni mewn newid i drefn arferol Gwobrau’r Selar – mae enillwyr categoriau Gwaith Celf Gorau, Fideo Gorau a Seren y Sin eisoes wedi’u cyhoeddi a bydd y gweddill yn cael eu datgelu yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Mewn cyfnod sydd wedi gweld sawl canolfan gerddoriaeth byw amlwg yn cau eu drysau, mae’n briodol fod un o’r canolfannau Cymreig enwocaf yn ennill y wobr eleni. Mae Clwb Ifor yn cynnal gigs yn rheolaidd yn Stryd y Fuwch Goch yng Nghaerdydd wrth gwrs, ond wedi dechrau hyrwyddo digwyddiadau mewn lleoliadau eraill yn ddiweddar hefyd.

Roedd y rhestr fer ar gyfer y categori wedi ei gyhoeddi ers mis Ionawr, ac yn amrywiol gyda’r label Recordiau Côsh, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn llunio’r tri uchaf yn y bleidlais gyhoeddus.