Bydd Geraint Jarman yn rhyddhau sengl ddwbl newydd ar 26 Ebrill, sy’n cynnwys dwy fersiwn wedi’u hail-gymysgu o’r trac ‘Colli Dy Riddim’.
Ankstmusik sy’n rhyddhau’r sengl ddwbl, ‘Colli Dy Riddim (Dufus Remix)’ a ‘Colli Dy Riddim (Dub)’. Bydd nifer o ddarllenwyr yn cofio fod fersiwn wreiddiol y trac wedi ymddangos ar albwm diweddaraf Jarman, Cariad Cwantwm, yn haf 2018.
Fis Hydref diwethaf rhyddhawyd sengl ddwbl o’r traciau ‘O Fywyd Prin’ a ‘Troedio’ wedi’i hail-gymysgu gan y cynhyrchydd Kris Jenkins, ac mae’r sengl ddiweddaraf yn gweld Geraint yn cydweithio gyda Jenkins unwaith eto.
Cariad Cwantwm ydy’r ail albwm ar bymtheg i Geraint Jarman ryddhau mewn gyrfa gerddorol a barddonol sydd wedi ymestyn dros hanner canrif. Yn ôl Ankstmusik mae ‘Colli Dy Riddim’ yn un o uchafbwyntiau’r albwm reggae a ryddhawyd mewn pryd i Eisteddfod Caerdydd.
Ar gyfer y fersiynau newydd o’r trac, mae Kris Jenkins wedi ail-gymysgu’r tapiau gwreiddiol er mwyn mynd at wraidd y ‘meloncholia’ sy’n byw’n ddwfn ym marddoniaeth geiriau’r gân. Wrth wneud hynny mae’n creu fersiwn newydd dyfnach sy’n llawn synau offerynnau pres, meldicas a rhythmau cadarn, oesol.
Bydd Jarman yn perfformio mewn cyfres fer o gigs dros benwythnos ym mis Gorffennaf – achubwch ar y cyfleoedd prin i’w weld yn fyw:
19 Gorffennaf – Neuadd y Dref Maesteg
20 Gorffennaf – Neuadd Ogwen, Bethesda
21 Gorffennaf – Sesiwn Fawr, Dolgellau
Dyma fersiwn wreiddiol ‘Colli Dy Riddim’ o’r albwm Cariad Cwantwm: