Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi cyhoeddi manylion taith yn y flwyddyn newydd er mwyn nodi deng mlynedd ers rhyddhau eu halbwm wych – Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn.
Does dim angen llawer o gyflwyniad ar y aelodau Cowbois Rhos Botwnnog sef y tri brawd Iwan Huws, Aled Hughes a Dafydd Hughes.
Ffurfiodd y grŵp yn 2006 gan ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘Dawns y Trychfilod’ flwyddyn yn ddiweddarach gan eu sefydlu fel grŵp poblogaidd dros ben.
Dilynodd eu hail albwm, ‘Dyddiau Du, Dyddiau Gwyn’ yn 2010 ac roedd yn arwyddocaol gan fod sŵn y grŵp wedi symud i ffwrdd o ‘hillbilly rock’, fel y disgrifiwyd Dawns y Trychfilod gan rai, i rywbeth llawer mwy aeddfed.
Mae’r sŵn hwnnw wedi parhau’n nodwedd amlwg o gerddoriaeth Cowbois Rhos Botwnnog, ac mae dau albwm arall wedi dilyn ers hynny sef ‘Draw Dros y Mynydd’ a enillodd wobr ‘Record Hir Orau Gwobrau’r Selar 2013’ ac yna ‘IV’ yn 2016.
Prosiectau amgen
Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r aelodau wedi bod yn canolbwyntio’n fwy ar brosiectau amgen.
Mae Iwan wedi rhyddhau albwm unigol, ynghyd â chyfrol o farddoniaeth, tra fod Aled yn cerfio gyrfa lwyddiannus i’w hun fel cynhyrchydd a hefyd yn aelod o Blodau Papur.
Mae Dafydd hefyd wedi bod yn chwarae gyda Blodau Papur ynghyd â bandiau eraill.
Rhaid cyfaddef y bydd yn dda gweld y tri yn ôl ar lwyfan gyda’i gilydd eto, a bydd y cerddorion eraill a gyfranodd at yr albwm sef Llyr Pari, Branwen Williams, Osian Williams ac Euron Jones hefyd yn dychwelyd ar gyfer y gyfres o gigs ym mis Mawrth a Chwefror.
Dyma ddyddiadau llawn y daith:
15 Chwefror – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
19 Chwefror – Theatr Derek Williams, Y Bala
21 Chwefror – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
28 Chwefror – Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
29 Tachwedd – Theatr Lyric, Caerfyrddin
6 Mawrth – Galeri, Caernarfon
13 Mawrth – Seler, Aberteifi