Cyfle cyntaf i glywed pwy dwi’n clywed chi’n gofyn?
Wel, Cefn Du ydy enw’r prosiect cerddoriaeth electroneg newydd o’r gogledd, ac mae’r Selar wrth ein bodd i gynnig y cyfle cyntaf i chi glywed eu seng newydd, ‘Creisus’.
‘Creisus’ ydy enw sengl gyntaf Cefn Du, ac mae allan yn ddigidol ddydd Gwener yma, 4 Hydref.
Ar hyn o bryd mae pwy yn union sy’n gyfrifol am ym y prosiect yn ddirgelwch, a’r cyfan gallwn ni rannu gyda chi ydy ei fod yn brosiect electronig Cymraeg newydd wedi’i sefydlu yn ardal Caernarfon.
Mae’n debyg bod y cerddor sy’n gyfrifol am Cefn Du wedi gweithio ar brosiectau cerddorol eraill yn y gorffennol.
Gallwn ni hefyd gyhoeddi mai tamaid i aros pryd ydy’r sengl gan fod Cefn Du wrthi’n recordio eu EP cyntaf ar hyn o bryd ac yn dwyn dylanwadau o gerddoriaeth house a techno.
Unwaith fyddwn ni’n dysgu mwy am y prosiect, chi fydd y cyntaf i wybod, ond am y tro mwynhewch ‘Creisus’.