Cyfle cyntaf i glywed…’Lol’ gan Mabli

Rydan ni’n dilyn gyrfa’r gantores ddawnus o Gaerdydd, Mabli, ers sawl blwyddyn bellach yma yn Selar HQ.

Pleser o’r mwyaf felly ydy gallu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed un o ganeuon eu halbwm cyntaf sy’n cael ei ryddhau’n swyddogol wythnos i ddydd Gwener, 25 Hydref.

Recordiau JigCal sy’n rhyddhau’r albwm newydd ac mae Mabli wedi bod yn gweithio gyda’r cynhyrchydd uchel ei barch, Chris Lewis.

Bydd mwy am yr albwm ar wefan Y Selar dros yr wythnos nesaf, ond am y tro dyma ‘Lol’: