Wedi hiatus hir ers dechrau 2018, mae Yr Eira yn ôl gyda chynnyrch newydd ar ffurf y sengl ‘Straeon Byrion’.
Mae’r sengl allan yn swyddogol ar recordiau I KA CHING fory, 6 Rhagfyr, ond mae’r Selar yn cael y pleser o rannu’r trac gyda chi ddarllenwyr lwcus ddiwrnod yn gynnar!
Mwy am y sengl isod, ond gyntaf, mwynhewch ‘Straeon Byrion’:
Mae fideo newydd, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard, yn cael ei gyhoeddi i gyd-fynd â’r gan ar Lŵp, S4C – cadwch olwg ar eu sianel YouTube.
Wedi cyfnod rhy hir o seibiant, rydan ni’n falch iawn i adrodd bod Yr Eira yn gweithio ar albwm newydd hefyd fydd yn bop abstract sy’n cymysgu gitârs jangli ac elfennau mwy electronig.
‘Straeon Byrion’ ydy’r sengl gyntaf oddi ar ail albwm y grŵp, ac mae’n dangos aeddfedrwydd a phrofiad Yr Eira wrth iddynt blethu’r drymiau electronig a synths yn ddidrafferth gyda’u sŵn pop roc adnabyddus.
Mae’r gân yn ymdrin ag anfodlonrwydd ac aflonyddwch bywyd. Er mor llawn yw’n profiadau ac er ein bod yn cael cymaint o fwynhad, mae’r meddwl yn dueddol o feddwl yn farus am beth sy’n dod nesaf, yn hytrach na gwerthfawrogi’r hyn sydd o’n blaen.
Neges y gân ydy fod bywyd just yn gyfres o straeon byrion sydd ddim cweit yn gwneud synnwyr.
Crewyd y gwaith celf gan Cybi Williams, ac mae’n gymysgedd o luniau a dynnwyd yn Bay of Pigs, Cuba ac yn cyfuno ysbrydoliaeth o gyfnod yn teithio yn Japan.
Mae’r sengl wedi’i recordio a chynhyrchu yn Stiwdio Sain gan hogia Drwm, ac mae’r gwaith cymysgu a mastro gan Ed Boogie sy’n adnabyddus am ei waith gyda Boy Azooga.