Ar ddydd Gwener 28 Mehefin bydd Bwca yn rhyddhau eu sengl newydd egnïol, ‘Weda i’.
Ond, mae’n falch iawn gan Y Selar gyflwyno ecsgliwsif byd eang i chi ar ffurf cyfle cyntaf i glywed tiwn ddiweddaraf y grŵp o’r canolbarth.
‘Weda i’ ydy’r sengl gyntaf i Bwca rhyddhau ers esblygu o fod yn brosiect cerddorol unigol Steff Rees, i fod yn fand pum aelod o’r canolbarth sy’n prysur greu enw i’w hunain gyda’u geiriau crafog ac alawon bachog.
Mae neges glir yn y rhan fwyaf o ganeuon Bwca, ac mae ‘Weda i’ yn dilyn y drefn honno trwy gwestiynu pam ein bod ni fel Cymry’n ddigon parod i godi cnec am bethau bach digon pitw, ond yn fud pan ddaw i’r pethau mwy.
Steff ei hun ysgrifennodd y gân ac ef sy’n canu ac yn chwarae’r gitârs ar y trac. Mae Rhydian Meilir yn ymuno ar y dryms a Ffion Evans gyda’r lleisiau ychwanegol. Recordiwyd a chymysgwyd y gân yn Stiwdio Bing sef stiwdio Rhydian Meilir ym Mro Ddyfi. Rhydian sydd wedi cynhyrchu’r trac hefyd.
Teimla Bwca’n gryf dros gefnogi artistiaid Cymraeg, ifanc ac addawol eraill o’r ardal ac yn hynny o beth comisiynwyd Alis Hâf Rees i greu’r gwaith celf ar gyfer y sengl.
Ers dod yn bumawd mae Bwca wedi codi stêm o ran gigio hefyd, ac maen nhw’n arbennig o brysur yn ystod mis Gorffennaf gyda gigs yng Ngŵyl Aber, Gŵyl Gwenlli, Parti Ponty, Sesiwn Fawr Dolgellau a Phenmaenau wedi eu cyhoeddi.