Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Bydd Wych’ gan Rhys Gwynfor

Mae sengl ddiweddaraf Rhys Gwynfor, ‘Bydd Wych’, allan ers cwpl o fisoedd bellach ond mae’r Selar yn falch iawn i gynnig ecsgliwsif byd eang arall i chi heddiw, sef y cyfle cyntaf i wylio’r fideo!
‘Bydd Wych’ ydy trydedd sengl Rhys Gwynfor ar label Recordiau Côsh ac fe’i recordiwyd yn stiwdio Sain gan gwmni cynhyrchu DRWM.
Saethwyd y fideo gan Dafydd Nant (FfotoNant) yng nghartref newydd Rhys yn Trelluest, ac mae hefyd yn gwneud defnydd o’r lleoliadau diddorol a lliwgar cyfagos.
Bach mwy am hyn isod, ond heb oedi ymhellach, dyma’r fid:

/div>

Mae Dafydd Nant, sy’n gerddor ei hun, wedi ffurfio partneriaeth fach daclus gyda Recordiau Côsh, ac wedi cynhyrchu 3 fideo i’r label recordiau yn ddiweddar – ‘Dawnsia’ gan Fleur De Lys a ‘Black Angel’ gan Alffa, ac y gobaith ydi parhau i ddatblygu ochr weledol artistiaid y label.
Gyda 2019 yn dirwyn i ben, mae Rhys yn llygadu 2020 fel blwyddyn brysur wrth iddo fynd ati i sefydlu band ar gyfer gigio ac yn edrych i gwblhau a rhyddhau albwm hefyd.