Ddydd Gwener diwethaf rhyddhaodd Al Lewis sengl gyntaf ei albwm newydd, Te yn y Grug, fydd allan yn y flwyddyn newydd.
Heddiw, mae Y Selar yn falch iawn i allu rhannu’r fideo swyddogol ar gyfer ‘Cân Begw’ gyda chi’n ecsgliwsif!
Cafodd y fideo ei ffilmio gan ffotoNant yn Eglwys Llanengan ger Abersoch ym Mhen Llyn ar y diwrnod y cynhaliodd Al ei gyngherdd Nadolig arbennig yno’n ddiweddar.
Fel y gwelwch yn y fideo isod, roedd yr Eglwys dan ei sang, gyda’r gig wedi gwerthu allan wythnosau ymlaen llaw.
“Mi oedd na awyrgylch hudolus yn yr Eglwys y noson honno a dwi mor falch i weld fod Dafydd wedi llwyddo i ategu’r wefr oedd yno drwy’r fideo yma” meddai Al wrth Y Selar.
Bydd yr albwm newydd allan yn y Gwanwyn newydd, gyda thaith hyrwyddo hefyd. Mwy am hyn isod, ond gyntaf, gwyliwch y fideo:
‘Cân Begw’ ydy’r sengl gyntaf oddi ar yr albwm Te yn y Grug a fydd yn cael ei ryddhau ar yr 21 Chwefror 2020.
Mae manylion taith hyrwyddo’r albwm newydd wedi’u cyhoeddi, a dyma’r dyddiadau:
21/02/20 – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
27/02/20 – Galeri, Caernarfon
06/03/20 – Theatr Mwldan, Aberteifi
27/03/20 – Neuadd Dwyfor, Pwllheli
28/03/20 – Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug