Mae sengl ddiweddaraf Lewys allan ers dechrau mis Awst ond nawr mae’r Selar yn falch iawn i allu datgelu’r fideo ar gyfer ‘Dan y Tonnau’.
Lewys ydy un o grwpiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd – datganiad sy’n cael ei gefnogi gan y ffaith mai nhw enillodd wobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni.
Sgroliwch lawr i ddarllen mwy am y fideo, ond heb oedi ymhellach…dyma fideo ‘Dan y Tonnau’:
‘Dan y Tonnau’ ydy’r ddiweddaraf o gyfres o sengl sydd wedi eu rhyddhau gan y grŵp ar label Recordiau Côsh dros y flwyddyn a hanner diwethaf – label sy’n cael ei redeg gan Yws Gwynedd wrth gwrs.
Ac os oes un person sy’n deall pwysigrwydd cyfrwng y fideo cerddoriaeth, yna Yws Gwynedd ydy hwnnw – fideo ‘Sebona Fi’ oedd y fideo cyntaf ar gyfer cân Gymraeg i’w gwylio dros 100,000 o weithiau ar YouTube. Mae wedi 350,000 erbyn hyn!
Mae’n ymddangos bod Lewys yn gweld pwysigrwydd y cyfrwng hefyd gan eu bod nhw eisoes wedi rhyddhau fideo i gyd-fynd â’r senglau ‘Gwres’ ac ‘Yn Fy Mhen’.
Izak Zjalic oedd yn gyfrifol am ffilmio, cyfarwyddo a golygu’r fideos blaenorol, ac unwaith eto mae Lewys yn cydweithio gyda’r cyfarwyddwr ifanc dawnus ac wedi creu’r fideo heb fawr ddim cyllideb.
“Nathon ni ffilmio’r cyfan heb budget o gwmpas traeth Llandanwg, ger Harlech” eglura Lewys Meredydd, canwr a gitarydd egnïol Lewys.
“Dyma’r tro cynta i’r lineup presennol sef fi, Iestyn, Gethin ac Ioan, ymddangos mewn fideo, a’r tro cynta i Huw Morris-Jones gyfrannu i’r fideos.”
Lewys ei hun sydd wedi cyfarwydd a golygu’r fideo ar y cyd ag Izak Zjalic, gyda Huw Morris-Jones ac Izak yn gyfrifol am y gwaith camera. Mae Huw hefyd yn gyfrifol am y ffotograffiaeth.
“Ma Izak Zjalic yn enw cyfarwydd erbyn hyn, i bawb sy’ di gwylio’n fideos cerddoriaeth a’r clips bach blaenorol!”
“O ran y syniad roedden ni’n meddwl, gan fod y gân ei hun yn un weddol straightforward roedden ni eisiau video straightforward, proffesiynnol i gydfynd.”
Prif Lun: Huw Morris-Jones