Cyfle cyntaf i weld… fideo ‘Dawnsia’ – Fleur de Lys

Ddoe fe ryddhaodd y grŵp poblogaidd o Ynys Môn, Fleur De Lys, eu sengl newydd sbon danlli, ‘Dawnsia’.

Heddiw, mae’n bleser gan Y Selar gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo arbennig sydd wedi’i gynhyrchu ar gyfer y sengl.

Mae’r fideo wedi’i ffilmio yng ngŵyl Tafwyl, Caerdydd gan Ffotonant, sef prosiect newydd Dafydd Nant, cyn-ddrymiwr Sibrydion a Bob.

Heb oedi ymhellach felly, dyma’r fideo:

Mae’r sengl yn dod o albwm newydd y grŵp, sydd wedi’i ysgrifennu a recordio’n barod, a sydd yn y broses o gael ei gymysgu gan y cynhyrchydd o Benrhyndeudraeth, Rich Roberts.

Mae ‘Dawnsio’ yn gân pop-roc sy’n adlewyrchu sŵn cyfarwydd Fleur De Lys – caneuon ewfforig a chyffrous, sydd wedi selio eu lle fel un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd tri chyfle i weld Fleur De Lys yn perfformio’r sengl yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, gyda gigs ar lwyfan y Maes ar ddydd Sul 4 Awst, Caffi Maes B ar ddydd Llun 5ed, ac ym Maes B ar y nos Iau.

Gigs Steddfod Fleur De Lys:

Llwyfan y Maes – Sul y 4ydd

Caffi Maes B – Llyn y 5ed

Maes B – Nos Iau