Mae’r grŵp gwych o’r gorllewin, Los Blancos, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers pythefnos, ac mae’r Selar yn falch iawn i gynnig y cyfle cyntaf i chi weld y fideo newydd ar gyfer y sengl.
‘Dilyn Iesu Grist’ ydy enw’r trac, ac mae’n gân sy’n trafod rhethreg gwag a sut gall nonses pur ar bethau fel y cyfryngau cymdeithasol swnio’n ddwys.
Nico Dafydd, sydd wedi cydweithio â’r grŵp yn y gorffennol ar fideos ‘Clarach‘ a ‘Datgysylltu‘, ydy cyfarwyddwr y fideo, ac mae wedi dwyn dylanwadau o thema’r gân.
“Mae’r gân yn sôn y soundbites a dyfyniadau diystyr mae pobl yn rhoi ar Facebook ac ati felly roedd yn teimlo’n briodol i wneud fideo’n dilyn yr un syniadau” meddai Nico
“Aethon ni gyda fideo wedi’i seilio’n fawr ar fideos MTV yr 80au oedd â llawer mwy o ddiddordeb mewn steil nag ystyr.”
Dyma’r fideo, mwynhewch: