Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Nofio Efo’r Fishis’ gan Kim Hon

Heb os, un o fandiau newydd mwyaf cyffrous 2019 ydy Kim Hon, ac mae Y Selar yn falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi weld fideo newydd gan y grŵp.

Rhyddhawyd y sengl ‘Nofio Efo’r Fishis’ yng nghanol mis Hydref a dyma oedd ail sengl y grŵp yn dilyn yr ardderchog ‘Twti Ffrwti’ ym mis Mai.

Bellach, mae’r grŵp wedi rhyddhau fideo swyddogol i gyd-fynd â’r trac, a dyma fo:

Gitarydd y grŵp, Sion Gwyn, sy’n gyfrifol am waith camera a golygu’r fideo newydd, gyda’r grŵp i gyd yn cyfrannu at y gwaith cynhyrchu.

Gyda llaw, roedd ’na si ar led bod Sion yn gadael y grŵp yn ddiweddar a’u bod yn chwilio am gitarydd newydd…ond mae’n debyg mae jyst y lleill yn chwarae joc ar Sion oedd hyn!

Y newyddion da o gyfeiriad label Kim Hon, sef Recordiau Libertino, ydy bod mwy o ddeunydd ar y gweill ganddyn nhw yn y flwyddyn newydd, ac yn sicr bydd croeso mawr i hynny.

Cofiwch bod Kim Hon yn un o’r nifer o artistiaid gwych sy’n perfformio yn gig hiwj Gŵyl Neithiwr yng nghanolfan Pontio, Bangor ar 18 Ionawr.