Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Tynnu ‘Mlaen’ gan Blind Wilkie McEnroe

Bydd Blind Wilkie McEnroe yn rhyddhau eu sengl newydd sbon ar label Recordiau I KA CHING ddydd Gwener yma, 15 Tachwedd.

Ac mae’r Selar yn falch iawn i gynnig y cyfle cyntaf i weld y fideo ar gyfer y sengl, ‘Tynnu ‘Mlaen’.

Mwy am y sengl isod, ond heb oedi ymhellach, dyma’r fid:

‘Tynnu ‘Mlaen’ ydy enw trac newydd y grŵp a ddaeth i’r golwg llynedd, ac mae’n damaid i aros pryd gan fod EP o ganeuon newydd ar y gweill ganddynt.

Y gobaith ydy bydd y record fer yn cael ei rhyddhau yn gynnar yn 2020.

Mae ‘Tynnu ‘Mlaen’ yn adeiladu ar sŵn unigryw Blind Wilkie McEnroe o ganu’r felan seicadelic – templed cerddorol a archwiliwyd gan y band ar eu EP cyntaf a ryddhawyd yn 2018.

Mae’r trac newydd yn tynnu gwaed newydd, diddorol i’r hen arddull canu gwlad, trwy ddefnyddio strwythur cordiau a harmonïau annisgwyl.

Pwy ydy Blind Wilkie?

Ffurfiwyd Blind Wilkie McEnroe yn 2018, ac roedd bach o ddirgelwch ynglŷn â’r aelodau ar y dechrau. Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach mai prosiect newydd y cerddorion profiadol  Carwyn Ginsberg (Hippies Vs Ghosts, Castles) a Dave Elwyn (Cull, The Dave Elwyn Band).

Derbyniodd eu EP cyntaf, oedd yn rhannu enw’r band, ymateb cynnes gan DJs tebyg i Adam Walton a Huw Stephens, gan arwain at sesiwn fyw ar BBC Radio Cymru.