Cyfle i ennill slot TregaRoc

Mae gŵyl TregaRoc yn Nhregaron wedi cyhoeddi eu bod yn cynnig slot arbennig i dalent newydd berfformio yn yr ŵyl eleni.

Cynhelir yw ŵyl ym mis Mai ers rhai blynyddoedd, gyda pherfformiadau yn nhafarndai’r dref yn ystod y prynhawn, a gig mwy yng Nghlwb Rygbi Tregaron gyda’r hwyr. Mae’r ŵyl wedi bod yn mynd o nerth i nerth, gyda thocynnau’r gig nos yn gwerthu allan mewn dim o dro fel arfer.

Meddai trefnwyr TregaRoc eu bod yn cynnal slot ‘meic agored’ am y tro cyntaf yn 2019. Yn ôl y criw, mae hwn yn gyfle arbennig i roi llwyfan i dalentau newydd sydd eisiau cyfle i berfformio.

Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu â threfnwyr TregaRoc trwy ddanfon neges breifat ar eu tudalen Facebook. Y dyddiad cau ar gyfer y cynnig ydy 5 Chwefror a cynigir y slotiau ar sail cyntaf i’r felin.