Cyfres gigs Cymreig Gruff Rhys

Mae Gruff Rhys wedi cyhoeddi manylion cyfres fer o gigs Cymreig bydd yn perfformio ynddynt ym mis Rhagfyr eleni.

Hon ydy’r daith Gymreig ar gyfer hyrwyddo ei albwm diweddaraf, a’i albwm cyfan gwbl Gymraeg cyntaf ers ‘Yr Atal Genhedlaeth’ yn 2005.

Gan ddechrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 6 Rhagfyr, bydd y daith hefyd yn ymweld â Llangollen, Bangor a Chrug Hywel cyn y Nadolig.

Rhyddhawyd yr albwm 9 trac ar label Rough Trade Records ar 13 Medi, ac mae ar gael yn ddigidol, ar CD, ar feinyl  a feinyl deluxe nifer cyfyngedig.

Cafodd y record ei recordio yng Nghaerdydd, ond mae wedi’i gynhyrchu a chymysgu gan y cynhyrchydd Muzi yn Johannesburg, De Affrica.

Mae’r label yn disgrifio’r casgliad fel ‘albwm pop Cymraeg, gydag ambell bennill o Zulu, a theitl Saesneg’.

Dyma fanylion llawn y daith ym mis Rhagfyr:

06/12/19 – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

07/12/19 – Neuadd y Dref, Llangollen

19/12/19 – Pontio, Bangor

20/12/19 – Clarence Hall, Crug Hywel