Cyfres gigs newydd Bangor Ucha

Nos Wener yma, 23 Awst, bydd cyfres newydd o gigs yn cael eu lansio ym Mar Rascals ym Mangor Ucha’.

‘Gigs LL57’ ydy’r enw ar y gyfres newydd o nosweithiau, ac mae lein-yp ardderchog ar gyfer y cyntaf sy’n cynnwys tri o grwpiau mwyaf Cymru ar hyn o bryd – Y Cledrau, Gwilym a Lewys.

Bydd y grŵp newydd, Valero, hefyd yn perfformio a dim ond £5 ydy pris mynediad.

Diffyg cyfleoedd

Y nod yn syml iawn ydy gweld mwy o gigs yn digwydd ym Mangor, fel yr eglurodd y trefnwyr, sy’n griw o gyn-ddisgyblion Ysgol Tryfan, wrth Y Selar.

“Ma Noson Neithiwr yn rhoi gigs da mlaen, ond fel arall ma hi’n eitha dead yma. I feddwl bod ‘na gymaint o fiwsig da o gwmpas, ma’r diffyg cyfleoedd i glywed stwff yn fyw yn nyts. Da ni’n meddwl fod bod hynny’n wir am weddill Cymru a’r sin yn gyffredinol hefyd.”

Efelychu Twrw

Un ysgogiad i’r criw fynd ati i drefnu oedd gig lansio EP Papur Wal yn Rascals nôl ym mis Ebrill eleni.

“Nath gweld Rascals yn llawn dop ar gyfer lansiad Papur Wal cwpl o fisoedd yn ôl deffinet wneud i ni feddwl ‘waw, fysa’n dda os fysa hyn yn digwydd eto.’

“Felly nathon ni benderfynu trefnu gig, efo’r bwriad o roi mwy o gigs ’mlaen yn y dyfodol dan yr un enw, tebyg i be ma Twrw yn gwneud yng Nghaerdydd.

“O ran y lein-yp cyntaf, nathon ni jyst penderfynu mynd efo be sy’ wir yn boblogaidd ar y funud er mwyn denu ychydig o sylw.

“Ma bandiau fel Gwilym bron yn guaranteed o ddenu crowds mawr.  Ond aye, mae ‘na gymaint o artistiaid cŵl fysa ni’n hoffi gofyn iddyn nhw ddod draw…oni bai bod ti’n byw yng Nghaerdydd, prin iawn ydy’r cyfleoedd i weld lot ohonyn nhw.”

Mae’r criw trefnu i gyd yn dechrau yn y coleg fis Medi, ond yn dweud eu bod yn awyddus i gynnal o leiaf un neu ddau o ddigwyddiadau eraill cyn diwedd y flwyddyn.

Maen nhw’n cael cefnogaeth gan gynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer y gig cyntaf, ond yn gobeithio bod yn hunan-gynhaliol yn yr hirdymor.