Bydd cyfle i naw o artistiaid Cymraeg berfformio yn ninasoedd Glasgow, Manceicion a Llundain dros yr hydref eleni diolch i gyfres o gigs mae asiantaeth hyrwyddo PYST wedi’i gyhoeddi.
Mae’r gigs yn gynllun peilot a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, lle bydd nosweithiau’n cael eu hyrwyddo gan rai o brif hyrwyddwyr y dair dinas dan sylw. Y nod yn y pendraw ydy gweld artistiaid Cymraeg yn ymddangos yn amlach ar lwyfannau y dair dinas yn y dyfodol.
Bydd tair taith fer yn ymweld â lleoliadau gigs amlwg Poetry Club yn Glasgow, Yes Manchester ym Manceinion a’r Victoria yn Dalston, Llundain.
Mae’r daith gyntaf yn digwydd ym mis Medi gyda gigs yn Glasgow ar y 4ydd, Manceinion ar y 5ed ac yn Llundain ar 6ed. Ac mae tri o fandiau mwyaf bywiog y sin Gymraeg ar hyn o bryd yn mynd i fod yn perfformio sef Adwaith, Mellt a Papur Wal.
Bydd dwy daith arall yn dilyn hynny gydag artistiaid gwahanol ym mis Hydref a Tachwedd.
Dyddiadau / lleoliadau taith mis Medi:
4 Medi – Poetry Club, Glasgow (hyrwyddir gan DF Concerts)
5 Medi – Yes, Manceinion (hyrwyddir gan Now Wave)
6 Medi – Victoria, Dalston (hyrwyddir gan Bird On The Wire)