Cyhoeddi 12 Artist Newydd Gorwelion

Mae cynllun Gorwelion BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi enwau’r 12 artist fydd yn ymuno â’r cynllun eleni.

Mae’r enwau newydd yn cynnwys band indî-pop breuddwydiol, artist pop electroneg yn ei harddegau, grŵp roc, rap a reggae byw, cantores jazz, cynhyrchydd dawns ac un o’r chwaraewyr banjo cyflymaf yng Nghymru!

Bydd sawl un o’r enwau yn gyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar, ond eraill yn llai cyfarwydd, gan gynnwys artistiaid sy’n bwriadu datblygu eu gyrfa a cherddoriaeth iaith Gymraeg yn ystod eu blwyddyn gyda’r cynllun.

Dyma’r 12 artist eleni:

Codewalkers – Band roc, rap a reggae o Gaerdydd

Darren Eedens & the Slim Pickin’s – cerddor o Ganada yn wreiddiol, ond sydd bellach wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd

Endaf – cynhyrchydd neo-soul, garage a deep house o Gaernarfon

Esther – cantores jazz a DJ sy’n gyfarwydd ar gylchdaith gigs Caerdydd

Eve Goodman – cantores werin ddwy-ieithog o’r Felinheli gyda llais hudolus

Gwilym – Oes angen cyflwyniad? Un o fandiau mwyaf poblogaidd y sin Gymraeg ar hyn o bryd, ac enillwyr 5 o Wobrau’r Selar yn gynharach eleni!

HANA2k – artist ‘pop-pinc’ sy’n cynnwys Britney Spears a Kanye West ymysg ei dylanwadau a sy’n perfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Cadw olwg arni!

Jack Perrett – canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd sydd wedi’i gymharu ag Oasis a The Stone Roses

Kidsmoke – band indî-pop breuddwydiol o ardal Wrecsam

Rosehip Teahouse – band pop amgen addawol

SERA – y gantores ddwy-ieithog brofiadol a ddaw’n wreiddiol o Gaernarfon ond sydd bellach wedi sefydlu yng Nghaerdydd

Y Cledrau – un o fandiau gorau’r sin Gymraeg – grŵp indî-roc o’r Bala a ryddhaodd eu halbwm cynraf ‘Peiriant Ateb’ ar ddiwedd 2017

Mae Gorwelion yn gynllun ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfydydau Cymru sy’n cefnogi datblygiad cerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd yng Nghymru.

Mae detholiad o 12 band neu gerddor yn cael eu dewis bob blwydyn i fod yn rhan o’r prosiect, gan dderbyn arweiniad a chefnogaeth i sefydlu eu gyrfaoedd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Fel rhan o’r cynllun bydd yr artistiaid yn cael cyfle i berfformio mewn nifer o wyliau amlwg ledled y DU ac yn rhyngwladol, ynghyd â recordio yn stiwdio’s enwog Maida Vale a Rockfield.

I ddathlu’r cyhoeddiad, cafodd yr artist o Gymru, Cadi Lane, ei chomisiynu i greu gwaith celf yn cynnwys pob band i’w arddangos uwchben Stryd Womanby yng Nghaerdydd.

Horizons / Gorwelion 12 2019

💥The Horizons / Gorwelion 12 for 2019/20: Codewalkers, Darren Eedens & the Slim Pickin's, Endaf, Esther, Eve Goodman Music, Gwilym, HANA2K, Jack Perrett Music, Kidsmoke, Rosehip Teahouse, SERA & Y Cledrau 💥🎵: Gwilym – Cwîn | https://bbc.in/2EWu9eLBBC Cymru Wales | Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Posted by Horizons / Gorwelion on Sunday, 9 June 2019

Prif lun: Un o 12 Gorwelion eleni, Y Cledrau, yn chwarae yng Ngwobrau’r Selar ym mis Chwefror.