Cyhoeddi dyddiad rhyddhau EP newydd Mei Gwynedd

Mae Mei Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei EP newydd ddydd Gwener 18 Ionawr.

Mae enw’r EP newydd yn rhannu enw’r sengl a ryddhawyd ganddo ddiwedd mis Tachwedd, sef ‘Tafla’r Dis’, a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Mei ei hun, sef Recordiau Jigcal.

Mae Mei Gwynedd yn enw cyfarwydd i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Mae’n gyn-aelod o Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, a hefyd yn gynhyrchydd uchel ei barch sy’n gweithio gyda nifer o fandiau ifanc ardal Caerdydd ar hyn o bryd.

Bu 2018 yn flwyddyn gynhyrchiol i Mei wrth iddo ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Glas, nôl ym mis Mehefin, cyn dilyn hynny gyda’r sengl ym mis Tachwedd. Does dim arwydd ei fod am arafu yn 2019 gyda’r cyhoeddiad ynglŷn â’r EP yn profi hynny.

Roedd Glas yn llawn o gerddoriaeth acwstig, hunangofiannol, ond mae Mei yn dychwelyd i’w wreiddiau roc a rôl gyda’r EP newydd.

Bydd Mei yn perfformio mewn dau gig ddiwedd mis Ionawr i lansio’r EP newydd – y cyntaf yn Nhafarn y Vic Park yng Nghaerdydd ar 18 Ionawr, a’r ail yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 25 Ionawr.

Cyhoeddwyd heno hefyd bod Mei i berfformio ar nos Sadwrn Gwobrau’r Selar, 16 Chwefror eleni yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Dyma fideo ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’ o’r albwm Glas: