Mae asiantaeth hawliau darlledu Eos wedi cyhoeddi manylion yr artistiaid sydd wedi llwyddo i ennill cyllid ganddynt yn 2019.
Ymysg yr artistiaid amlwg sy’n cael cefnogaeth y gronfa mae Gai Toms, Sŵnami a Thallo.
Mae Cronfa Nawdd Eos yn cynnig nawdd er budd y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg. Mae’r gronfa’n agored i geisiadau gan artistiaid, cyfansoddwyr, hyrwyddwyr neu unrhyw un sy’n gwneud bywoliaeth yn llawn, neu’n rhan amser drwy gerddoriaeth Gymraeg neu berfformio mewn cynyrchiadau Cymraeg.
Mae’r gronfa’n cynnig pecynnau nawdd o isafswm o £500 hyd uchafswm o £2000 ar gyfer hyd at 70% o gostau unrhyw gynllun neu offer.
Roedd y dyddiad cau ar gyfer y rownd gyntaf o gyllid y gronfa ar 30 Medi 2019, a nawr mae’r asiantaeth wedi cyhoeddi manylion yr ymgeiswyr llwyddiannus, a’r hyn y byddan nhw’n gwneud â’r cyllid.
Dyma’r manylion:
BITW – Cyfraniad tuag at recordio albwm newydd.
BWNCATH – Cyfraniad tuag at daith eu halbwm newydd yn 2020.
GAI TOMS (Recordiau SBENSH) – Cyfraniad tuag at offer stiwdio newydd i Recordiau Sbensh
LWCUS T – Cyfraniad tuag at gynllun marchnata prosiect newydd Yr Ods – Iaith y Nefoedd.
OWAIN GRUFFUDD ROBERTS – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm newydd.
SWNAMI – Cyfraniad tuag at gynhyrchu albwm newydd.
THALLO – Cyfraniad tuag at ymarfer a chreu cynnyrch newydd.
Mae’r prosiectau llwyddiannus wedi eu dewis gan banel cwbl ddi-duedd, sydd wedi ei benodi gan Fwrdd Eos.