Mae fideo swyddogol ar gyfer y trac ‘Aderyn’ gan Casi and the Blind Harpist wedi’i gyhoeddi ar-lein.
Casi and the Blind Harpist ydy enw prosiect cerddorol diweddaraf y gantores Casi Wyn, ac fe ryddhaodd ei EP diweddaraf, dan yr enw Sunflower Seeds ar 15 Mawrth eleni.
Rhyddhawyd yr EP ar label adnabyddus Chess Club, sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau cerddoriaeth gan enwau amlwg fel Wolf Alice, Jungle a Mumford & Sons.
Rhyddhawyd sengl o’r casgliad ar Ddydd Gŵyl Dewi, ynghyd â fideo ar gyfer y trac ‘Rooted. Brawd Casi, Griff Lynch oedd wedi cyfarwyddo’r fideo hwnnw.
‘Aderyn’ ydy trac olaf y casgliad byr, a’r unig gân Gymraeg ar yr EP 5 trac. Mae’r gân yn cynnwys lleisiau Côr Seiriol, sef côr merched o Fangor, Caernarfon ac Ynys Môn.
Mae’r fideo sydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y trac yn un animeiddiedig, wedi’i greu gan Lleucu Non.
Dyma’r ail fideo i Lleucu greu ar gyfer Casi – roedd y llall ar gyfer y gân ‘One Evening in April’ ac fe’i gyhoeddwyd ar-lein ym mis Ebrill.