Mae fideo newydd i un o draciau’r ardderchog Los Blancos, ‘Cadw Fi Lan’, wedi ymddangos ar-lein ddiwedd wythnos diwethaf.
Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu gan griw ‘The Shoot’ sydd wedi gweithio tipyn gydag artistiaid label Los Blancos, Recordiau Libertino, dros y misoedd diwethaf.
Nhw oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo fideos ‘Y Diweddaraf’ a ‘Gartref’ gan Adwaith llynedd. Fe wnaethon nhw hefyd gynhyrchu fideo arbennig i ddathlu pen-blwydd Libertino yn flwydd oed nôl ym mis Mehefin – mae hwn i’w weld ar safle YouTube Libertino.
Gellir gweld y fideo newydd ar sianel YouTube Recordiau Libertino nawr, ac mae hefyd wedi’i gyhoeddi’n ecsgliwsif ar wefan cerddoriaeth amlwg ‘God is The TV’ wythnos diwethaf.
Mae’r fideo ar gyfer ‘Cadw Fi Lan’ wedi’i ffilmio yn ystod perfformiad byw gan y grŵp sydd wedi’i disgrifio gan rai fel y ‘Replacements Cymreig’ diolch i natur gynddeiriog eu setiau byw.
Rhyddhawyd ‘Cadw Fi Lan’ fel un hanner sengl ddwbl gyda’r trac ‘Ti Di Newid’ ddechrau mis Chwefror eleni.
Prif Lun: Los Blancos yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar, Chwefror 2019 (Celf Calon / Y Selar)