Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi manylion eu gigs nosweithiol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni.
Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â Llanrwst yng Nghonwy rhwng 3 a 10 Awst, ac wythnos diwethaf fe gyhoeddodd yr Eisteddfod arlwy gigs Maes B am yr wythnos.
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ydy’r opsiwn amgen i bobl sydd am fwynhau cerddoriaeth gyda’r hwyr, a thra bod dal amheuaeth am union leoliad maes yr Eisteddfod, mae’r Gymdeithas wedi gosod eu pabell yn sefydlog yng Ngwesty’r Eryrod reit yng nghanol tref Llanrwst.
Adloniant amrywiol
Mae’r wythnos yn agor ar y nos Sadwrn cyntaf, 3 Awst gyda Bryn Fôn yn brif atyniad. Noson gomedi fydd ar y nos Sul yng nghwmni Tudur Owen a Hywel Pitts, ac er mai ddim ond dydd Iau (9 Mai) aeth y tocynnau ar werth, maent eisoes wedi eu gwerthu i gyd.
Grŵp ifanc mwyaf poblogaidd Cymru, Gwilym, ydy prif enw nos Lun y gigs gyda chefnogaeth gan Alffa a’r grŵp lleol Serol Serol. Mae’r adloniant ychydig yn wahanol ar y nos Fawrth gyda noson farddoniaeth yng nghwmni Ifor ap Glyn a Bragdy’r Beirdd.
Naws lleol
Efallai mai un o enwau mwyaf trawiadol yr wythnos ydy prif fand nos Fercher wrth i’r ffefrynnau lleol, Sen Segur, ail-ffurfio’n arbennig ar gyfer y gig. Label Recordiau Cae Gwyn sy’n gyfrifol am y noson sydd hefyd yn gweld y grŵp lleol arall o Ddyffryn Conwy, Omaloma, ynghyd ag Ynys yn perfformio.
Mae’r cysylltiadau Dyffryn Conwy yn parhau ar y nos Iau gyda’r ddau gerddor sy’n byw yn Llanddoged, Alun Tan Lan a Tecwyn Ifan, yn ymuno â Cowbois Rhos Botwnnog a Carwyn Ellis a’i brosiect Rio 18.
Prosiect arall Alun Tan Lan, Y Niwl, ydy prif atyniad gig nos Wener a heb os uchafbwynt yr wythnos fydd gweld y bachgen lleol, Mark Roberts, yn dychwelyd i Lanrwst gyda’i brosiect diweddaraf, Mr.
Mae’r tocynnau ar werth nawr ar wefan Cymdeithas yr Iaith, ac mae modd prynu tocyn cynnar am yr wythnos sy’n rhoi mynediad i’r 8 noson am £80.
Lein-yp llawn gigs Steddfod Cymdeithas:
Sadwrn 3 Awst – Bryn Fôn, Crawia, Tant
Sul 4 Awst – Tudur Owen, Hywel Pitts
Llun 5 Awst – Gwilym, Alffa, Serol Serol
Mawrth 6 Awst – Ifor ap Glyn a Bragdy’r Beirdd…Gwir fel Gwydir, cerddi a miri a mwy
Mercher 7 Awst – Sen Segur, Omaloma, Ynys
Iau 8 Awst – Carwyn Ellis | Rio 18, Cowbois Rhos Botwnnog, Tecwyn Ifan, Alun Tan Lan
Gwener 9 Awst – Y Niwl, Ani Glass, Bitw, Pys Melyn
Sadwrn 10 Awst – Mr, Chroma, Ffracas, Lastigband