Cyhoeddi lein-yp Gwobrau’r Selar

Mae’r amser wedi dod i gyhoeddi lein-yp un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn – Gwobrau’r Selar!

A hyd yn oed os mai ni sy’n dweud hynny, mae ganddom ni glamp o lein-yp ar gyfer y ddwy noson yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Wener 15 Chwefror a nos Sadwrn 16 Chwefror.

Am y tro cyntaf eleni, mae’r digwyddiad wedi ei wasgaru dros ddwy noson, ond yn ôl yr arfer byddwn ni’n llwyfannu lein-yp sy’n cynnwys llwyth o artistiaid prysura’ a mwyaf llwyddiannus y flwyddyn ddiwethaf.

Nos Wener 15 Chwefror

Gyda’r digwyddiad yn cael ei ymestyn i’r nos Wener am y tro cyntaf, mae lein-yp cryf ar gyfer noson agoriadol y penwythnos.

Llun: Y Selar

Yr enw cyntaf ydy efallai band prysuraf 2018, ac enillwyr gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, Mellt. Record hir gyntaf y grŵp, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, oedd yr unig albwm Gymraeg i gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2018.

Band arall sydd wedi mynd o nerth i nerth yn 2018 wrth hyrwyddo eu halbwm cyntaf, gan wir sefydlu eu hunain fel un o fandiau byw gorau’r wlad ydy Y Cledrau, a fydd hefyd yn perfformio.

Un arall o fandiau mwyaf Cymru ydy HMS Morris sydd wedi cael blwyddyn brysur o gigio ledled y wlad a thu hwnt, gan hefyd ryddhau eu halbwm diweddaraf, Inspirational Talks, ym mis Medi.

Mae’n debyg mai stori newyddion fwyaf cerddoriaeth Gymraeg yn 2018 oedd hwnnw am drac ‘Gwenwyn’ gan Alffa yn cael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify – y trac Cymraeg cyntaf i gyflawni’r gamp. Roedd yn amhosib hepgor y ddeuawd, sydd hefyd wedi eu cynnwys ar gynllun Gorwelion, o lein-yp y Gwobrau.

Y cerddor ifanc cyffrous o Ddolgellau, Lewys, sy’n cwblhau lein-yp nos Wener. Ag yntau wedi rhyddhau tair sengl wych ar label Côsh, yn ogystal â sefydlu ei fand byw yn 2018, mae’n enw sy’n werth ei wylio yn 2019. Cyhoeddwyd nos Lun fod fideo ‘Gwres’ gan Lewys ar restr fer categori ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ .

Nos Sadwrn 16 Chwefror

Os ydy lein-yp nos Sadwrn Gwobrau’r Selar yn gryf, yna mae lein-yp nos Sadwrn cyn gryfed!

Enillwyr gwobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar llynedd oedd Gwilym, ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny gan ryddhau eu halbwm cyntaf, Sugno Gola, a datblygu i fod yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru. Mae dau o fideos Gwilym wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ eleni sef ‘Cwîn’ a ‘Cysgod’.

Mae Mei Gwynedd yn un o gerddorion amlycaf Cymru ers degawdau bellach, yn ogystal â gwneud cyfraniad pwysig fel cynhyrchydd a rheolwr label JigCal. Roedd 2018 yn flwyddyn arwyddocaol wrth iddo ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Glas, yn ogystal â sengl o’i EP newydd ym mis Rhagfyr.

Un o’r bandiau ifanc sydd wedi bod yn gweithio gyda Mei Gwynedd, a chreu argraff mawr yn 2018 ydy Wigwam. Cyrhaeddodd y grŵp o Gaerdydd rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn y brifddinas fis Awst, yn ogystal â rhyddhau eu halbwm cyntaf, ac maen nhw’n siŵr o fod yn un o’r ffefrynnau i gipio’r wobr ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ fis Chwefror.

Bu’n flwyddyn arwyddocaol i Los Blancos wrth iddynt ryddhau pump o draciau fel senglau gyda Recordiau Libertino yn ystod 2018. Mae’r grŵp wedi gigio’r rheolaidd hefyd a sefydlu eu hunain fel un o brif grwpiau Cymru. Byddan nhw’n rhyddhau sengl ddwbl ar 8 Chwefror gydag albwm cyntaf i ddilyn.

Enw arall sydd wedi ei gyhoeddi ar gyfer lein-yp nos Sadwrn ydy’r grŵp o Glwyd, Trŵbz, a ryddhaodd eu EP ‘Croesa’r Afon’ yn ystod 2018.

Mae’r band sy’n cwblhau lein-yp y nos Sadwrn, Breichiau Hir, hefyd wedi rhyddhau EP yn ystod 2018. Roedd rhyddhau Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun yn ffordd dda o nodi 10 mlynedd o fodolaeth y grŵp, wrth iddyn nhw gigio’n rheolaidd hefyd.

Felly, dyma’r lein-yp yn llawn:

Artistiaid nos Wener: Mellt, Y Cledrau, HMS Morris, Alffa, Lewys

Artistiaid nos Sadwrn: Gwilym, Mei Gwynedd, Los Blancos, Trŵbz, Wigwam, Breichiau Hir, Breichiau Hir

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth ers mis Rhagfyr, ac yn gwerthu’n dda. Gyda thocynnau wedi eu cyfyngu i 600 eleni, mae disgwyl iddynt werthu i gyd ymlaen llaw a’r cyngor ydy i brynu’n fuan – am beth ydach chi’n aros?!