Cyhoeddi lein-yp Gŵyl Fach y Fro

Mae llu o wyliau Cymreig wedi bod yn cyhoeddi manylion ei lein-yps dros yr wythnosau diwethaf, ac un o’r diweddaraf ydy Gŵyl Fach y Fro ar Ynys y Barri.

Cynhelir yr ŵyl yn y Barri am y bumed flwyddyn yn olynol eleni, a hynny ar ddydd Sadwrn 15 Mehefin – Menter Bro Morgannwg sy’n gyfrifol am ei threfnu.

Yn perfformio ar brif lwyfan Gŵyl Fach y Fro eleni bydd Meic Stevens a’r Band, The Gentle Good, Chroma, Bwncath, Bronwen Lewis, Canfas (grŵp o ddisgyblion Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg) a Dagrau Tân (band Ysgol Sant Baruc). Am y tro cyntaf eleni, bydd Sioe Cyw hefyd yn ymddangos ar y Prif Lwyfan i gynnig adloniant i’r plant lleiaf.

Bydd yr ŵyl hefyd yn lansio ‘Llwyfan Cymunedol’ newydd fel rhan o’r ŵyl eleni. Disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Sant Curig sydd wedi enwi’r llwyfan newydd, sef ‘Glanfa Gwynfor’.

Bydd y llwyfan yn cynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl i gymryd rhan yn yr ŵyl, gyda pherfformiadau gan gannoedd o ddisgyblion ysgolion lleol, plant o’r Cylchoedd Meithrin cyfagos yn ogystal â chorau cymunedol.

Bydd stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol yn yr ŵyl yn ogystal ag ardal chwarae, beiciau bybls, sgiliau syrcas, salon glitter, perfformiadau stryd, gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru, Dysgu Cymraeg y Fro, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd.

Mae Gŵyl Fach y Fro yn ddigwyddiad rhad ac am ddim sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad unigryw, cyhoeddus a phoblogaidd ar Ynys y Barri. Yn ôl y trefnwyr mae hyn yn gwneud yr ŵyl yn hynod hygyrch i bawb; boed yn siaradwr Cymraeg, neu’n cael eu profiad cyntaf o’r iaith a’r diwylliant.

Mae mwy o wybodaeth a newyddion diweddaraf Gŵyl Fach y Fro ar wefan, tudalen Facebook, Twitter ac Instagram Menter Bro Morgannwg.