Cyhoeddi lein-yp llawn Gŵyl Aruthrol

Mae’r The Joy Formidable wedi cyhoeddi y rhestr o fandiau fydd yn perfformio mewn gŵyl arbennig maent yn llwyfannu ddiwedd mis Tachwedd.

Gŵyl Aruthrol ydy enw’r ŵyl sy’n nodi 10 mlynedd ers rhyddhau record enwog gyntaf y band o’r Wyddgrug, ‘A Balloon Called Moaning’.

Cynhelir yr ŵyl yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd.

Gŵyl fechan

Bwriad yr ŵyl fechan gan y band ydy dathlu peth o gerddoriaeth a chelfyddyd gorau Cymru, gan ddod â rhai o’u hoff artistiaid i Gymru.

Mae’r achlysur yn cyd-fynd gyda chyhoeddi albwm ddwbl arbennig sy’n cynnwys eu EP ‘Balloon Called Moaning’ o 2009 yn ogystal â’r fersiwn Gymraeg, ‘Y Falŵn Drom’, sydd newydd ei recordio ganddynt.

Wedi ei hysgrifennu a’i recordio gan y prif leisydd a’r gitarydd, Ritzy Bryan, a’r canwr a basydd, Rhydian Dafydd, dros ddegawd yn ôl mewn ystafell wely yng Ngogledd Cymru, daeth A Balloon Called Moaning yn llwyddiant yn syth.

Cafodd farc 8/10 gan yr NME, a dyma’r record gyntaf gan y band i gyflwyno eu trac eiconig ‘Whirring’ – a enwyd ymysg 100 Trac Uchaf gwefan Pitchfork, a’i disgrifio fel ‘the song of the year’ gan Dave Grohl o’r Foo Fighters.

Bydd y sioe yn dangos The Joy Formidable nôl yng Nghymru, yn union wedi taith o’r UD, yn perfformio set acwstig a thrydan y cyflwyno rhai o ganeuon amlycaf eu gyrfa hyd yma.

Candelas, Chroma a mwy

Rydym eisoes wedi clywed bod Candelas i berfformio yn yr ŵyl, a bydd grŵp Cymraeg amlwg arall, Chroma, hefyd yn ymuno â nhw ar lwyfan The Tramshed.

Hefyd yn perfformio bydd y band pop seicadelig o Ganolbarth Cymru, Islet, ynghyd â Bryde, cantores-gyfansoddwraig o Sir Benfro.

Yn ogystal â’r artistiaid Cymreig uchod, bydd artistiaid o’r tu hwnt i Gymru yn perfformio – y ddeuawd roc o Brighton, Blood Red Shoes, a Walt Disco, band 5 aelod newydd o Glasgow. Bydd Gwenno a Rhys Peski/Jakokoyak yn chwarae setiau DJ hefyd ar y dydd.

“Rydyn ni’n gweld Gŵyl Aruthrol fel cyfle gwych i ni wahodd rhai bandiau i chwarae o flaen cynulleidfaoedd yng Nghymru na fyddent efallai yn eu gweld fel arall” meddai prif leisydd a gitarydd The Joy Formidable, Ritzy Bryan.

“Hynny yn ogystal â chyfle i hyrwyddo setiau a bandiau Cymraeg – bydd yn noson gynhwysol o gerddoriaeth wych! Byddwn y gwneud dwy sioe y noson honno, un set acwstig Gymraeg fer, a’r llall yn un drydanol lawn.”

Hefyd fel rhan o Gŵyl Aruthrol bydd 3 artist Cymraeg yn creu celf fyw i’w rhoi ar ocsiwn, gyda’r elw yn mynd at elusennau. Un o’r elusennau hynny fydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru sy’n rhoi eu hamser i warchod bywyd gwyllt yng Nghymru. Yr artistiaid fydd Elinbach, Twinkle, Gloom a Gus Payne.

Lein-yp gerddoriaeth lawn Gŵyl Ffurfiol:

  • The Joy Formidable
  • Blood Red Shoes
  • Walt Disco
  • Bryde (acwstig)
  • Islet
  • Chroma
  • Candelas
  • Gwenno (set DJ)
  • Rhys Peski (set DJ)