Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn perfformio ar lwyfan Maes B eleni.
Bydd yr Eisteddfod yn ymweld â Llanrwst yng Nghonwy eleni rhwng 3 a 10 Awst, er bod dal amheuaeth ynglŷn ag union safle’r maes oherwydd pryderon ynglŷn â llifogydd ar y safle gwreiddiol.
Er hynny, mae’r Eisteddfod wedi cyhoeddi pwy yn union fydd yn perfformio ar lwyfan Maes B ar ba noson. Bydd gigs ym Maes B rhwng nos Fercher 7 Awst a nos Sadwrn 10 Awst.
Un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas, fydd prif fand noson gyntaf Maes B ar nos Fercher 7 Awst. Ac mae roc yn sicr ar y fwydlen ar y noson agoriadol gyda chefnogaeth gan Alffa, Chroma ac enillwyr Brwydr y Bandiau Maes B/Radio Cymru llynedd, SYBS.
Grŵp arall sydd â chysylltiadau cryf ag Y Bala sy’n hedleinio nos Iau hefyd, sef Y Cledrau. Bydd Fleur de Lys yn eu cefnogi, ynghyd ag Omaloma a Lewys.
Enillwyr 5 o gategorïau Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni, ac un o fandiau ifanc mwyaf cyffrous y wlad ar hyn o bryd, Gwilym, fydd y prif atyniad ar nos Wener yr Eisteddfod. Bydd y grŵp hip hop, 3 Hŵr Doeth a Papur Wal yn cefnogi, ynghyd â’r grŵp lleol o Ddyffryn Conwy, Serol Serol.
Mae’r anrhydedd o gloi arlwy’r wythnos ar nos Sadwrn olaf Maes B eleni’n cael ei roi i’r grŵp o Aberystwyth, Mellt. Yn un o fandiau prysura’ 2018, fe wnaethon nhw gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd llynedd am eu record hir gyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc. Ac mae tri o grwpiau eraill mwyaf cyffrous y sin yn eu cefnogi – Adwaith, Los Blancos a Wigwam.
Mercher 7 Awst – Candelas., Alffa, Chroma, SYBS
Iau 8 Awst – Y Cledrau, Fleur de Lys, Omaloma, Lewys
Gwener 9 Awst – Gwilym, Hŵr Doeth, Papur Wal, Serol Serol
Sadwrn 10 Awst – Mellt, Adwaith, Los Blancos, Wigwam