Mae trefnwyr yr ŵyl newydd sydd i’w chynnal yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 5 Gorffennaf bellach wedi cyhoeddi enwau’r holl artistiaid fydd yn perfformio.
Mae Y Selar yn falch o fod yn ran o’r tîm sy’n trefnu’r ŵyl, ac roedden ni eisoes wedi cyhoeddi enwau’r don gyntaf o artistiaid bythefnos yn ôl, sef Candelas, Gwilym Bowen Rhys a’r grŵp o’r canolbarth, Bwca. Yr wythnos hon ychwanegwyd enwau Plu, DJ Sgilti, Y Niwl a Gwilym at y leinyp.
Bydd nifer o weithgareddau eraill yn cael eu cynnal fel rhan o’r diwrnod hefyd, gan gynnwys cystadleuaeth i fandiau ysgolion uwchradd yr ardal gyda’r her o berfformio fersiwn o gân gyfoes gyfarwydd. Bydd y gerddorfa ukelele newydd o’r dref, Iwcadwli hefyd yn perfformio yn ystod y dydd.
Prif nod Gŵyl Aber ydy codi arian at Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020, a thrwy hynny godi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod, y diwylliant Cymraeg, ac yn arbennig artistiaid cerddorol Cymraeg cyfoes ymysg cynulleidfaoedd llai traddodiadol yr ardal. Clwb Rygbi Aberystwyth ydy lleoliad yr ŵyl a bydd cyfle arbennig i ysgolion cynradd yr ardal ddod i sesiwn yn ystod y prynhawn.
Dim ond £5 fydd pris mynediad yr ŵyl i oedolion a £1 i blant dan 14 oed. Dywed y trefnwyr bod y tocynnau’n cael eu rhyddhau’n fuan.