Cyhoeddi manylion Gig Nos Ffiliffest

Unwaith eto eleni, mae Y Selar yn falch iawn i fod yn trefnu arlwy Gig Nos Ffiliffest yng Nghaerffili.

Dyma’r ail waith i ni gydweithio gyda trefnwyr gŵyl Ffiliffest i lwyfannu gig gyda’r hwyr yng nghastell eiconig Caerffili, ac rydan ni’n falch iawn i gyhoeddi’r lein-yp gwych sy’n perfformio eleni.

Mae lein-yp arbennig o gryf ar gyfer y gig yn cynnwys dau o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Candelas a Gwilym, ynghyd â’r grŵp ifanc addawol o Gaerdydd, Wigwam, y cerddor elecronig Ani Glass, ac enillwyr Brwydr y Bandiau Eisteddfod 2018, SYBS.

Cynhelir y gig ar nos Wener 28 Mehefin y tro yma gyda Gŵyl Ffiliffest, sydd wedi’i sefydlu ers sawl blwyddyn bellach, yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol.

Mae gig nos Ffiliffest yn cael ei drefnu ar y cyd rhwng Menter Caerffili ac Y Selar. Cynhaliwyd y gig am y tro cyntaf llynedd ar nos Sadwrn yr ŵyl, ar ôl i weithgareddau arferol Ffiliffest gael eu cynnal yn ystod y dydd.

“Y syniad gyda gig nos Ffiliffest ydy ychwanegu mwy o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes at yr hyn sydd wedi bod yn Ffiliffest” meddai Bethan Jones-Ollerton o Fenter Caerffili.

“Er fod cerddoriaeth gyfoes, a gwerin, wedi cael lle amlwg yn Ffiliffest erioed, gŵyl deuluol ydy hi’n bennaf ac mae’r gig nos yn ffordd o gynnal rhywbeth penodol fydd yn apelio at bobl ifanc. Mae rhestr arbennig o dda o artistiaid eleni, a dwi’n siŵr bydd y gig yn boblogaidd iawn unwaith eto.”

Mae tocynnau ar werth ar wefan tocyn.cymru, neu o swyddfa Menter Caerffili am bris gostyngol o £5. Bydd modd talu £7 am fynediad ar y noson.