Cyhoeddi manylion trydedd taith PYST

Mae asiantaeth PYST wedi cyhoeddi pa dri artist fydd yn perfformio ar eu trydedd taith fer i ddinasoedd Llundain, Manceinion a Glasgow.

Blodau Papur, Cotton Wolf a Thallo ydy’r tri band sy’n teithio i’r dair dinas rhwng 6 a 8 Tachwedd.

Dyma fydd y drydedd cyfres o gigs sy’n cael eu trefnu gan PYST, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, lle mae hyrwyddwyr lleol yn hyrwyddo’r digwyddiadau gydag artistiaid Cymraeg.

Cynhaliwyd y daith gyntaf ddechrau’r mis (4-6 Medi) gydag Adwaith, Mellt a Papur Wal yn ymweld â lleoliadau y Poetry Club yn Glasgow, Yes Manchester ym Manceinion a’r Victoria, Dalston yn Llundain.

Bydd yr ail daith yn digwydd rhwng 9 a 11 Hydref gydag Ynys, Bitw a SYBS yn perfformio.

Dyma restr dyddiadau’r daith gyda Blodau Papur, Cotton Wolf a Thallo:

6 Tachwedd – Poetry Club, Glasgow

7 Tachwedd – Yes Manchester, Manceinion

8 Tachwedd – Victoria, Dalston, Llundain