Mae Gŵyl Sŵn wedi cyhoeddi 35 enw arall i’w rhestr o fandiau fydd yn perfformio eleni.
Cynhelir yr ŵyl dros dridiau, rhwng 18 a 20 Hydref, mewn sawl safle ym mhrifddinas Cymru.
Mae’r ail don yma o gyhoeddiadau yn cynnwys enwau mawrion fel Rosie Lowe, Tom Ravenscroft, Squid a Charlotte Adigéry, fydd yn ymuno ag artistiaid fel Twin Peaks, Gruff Rhys a Nilüfer Yanya.
Prif enwau
A hithau newydd ryddhau ei hail albwm, ‘YU’, bydd Rosie Lowe yn ymddangos mewn sawl gŵyl gerddorol eleni. Yn gantores, cyfansoddwraig ac aml-offerynwraig, mae’n anodd gosod ei sain arbrofol mewn genre penodol. Serch hynny, mae’r ymgorfforiad o felanganeon ffynci, synths llyfn a geiriau eneidiol yn sicr o’ch cyffwrdd a’ch cyffroi.
Ar ôl ymddangos ar restr ‘100 artist newydd hanfodol ar gyfer 2019’ NME, mae Squid wedi dod i’r amlwg gyda’u sain ôl-pync gwallgo. Er gwaetha’r dull swnllyd a thrwm, gyda rhu rhyfeddol Ollie y prif leisydd, mae rhywbeth hwyliog a hoffus am ffordd ddigymell y band o greu cerddoriaeth.
Gyda pherfformiadau byw eiconig sy’n adnabyddus am blesio bob tro, mae The Murder Capital yn fand na ddylir eu colli. Roedden nhw eisoes wedi sicrhau lle i’w hunain ar ôl rhyddhau eu hail sengl, ‘Green & Blue’, ac maen nhw’n paratoi eu halbwm cyntaf ar hyn o bryd.
Nid yw’r DJ Radio 6, Tom Ravenscroft, yn un sy’n amharod i ddangos perlau gorau’r byd cerddoriaeth i ni. Mae Sŵn yn croesawu ei chwaeth eclectig a phell-gyrhaeddol gyda set DJ fydd yn llawn synau byd-eang.
Triawd o Lundain ydy Big Joanie, gyda’u pync ffeministaidd fydd yn codi curiad y galon. A menyw arall sydd â sŵn sy’n taro’n drwm ac sy’n amhosib ei osod mewn bocs yw’r artist Belgaidd-Caribïaidd Charlotte Adigéry.
Yn hanu’r holl ffordd o Washington, mae Chastity Belt yn llawn gofid ôl-pync cyfarwydd ac yn mynegi ymdeimlad torfol o annigonolrwydd drwy eiriau ffraeth, tra bod Fatherston yn
barod i fynd â chi i le hypnotig, ar ôl rhyddhau eu halbwm fwyaf arbrofol hyd yma.
Artistiaid Cymraeg
Yr artistiaid iaith Gymraeg sydd wedi eu henwi yn y don yma ydy Eädyth, Elis Derby, Kim Hon, Melin Melyn ac Ynys
Dyma’r enwau newydd yn llawn:
Alien Tango, Campfire Social, County Line Runner, Dehd, Denuo, Eädyth, Egyptian Blue, Elis Derby, Far Caspian, Francis Lung, Gaffa Tape Sandy, Jerskin Fendrix, Just Mustard, Katy J Pearson, Kim Hon, Melin Melyn, Pagan Wanderer Lu, Big Joanie, Charlotte Adigery, Chastity Belt, Fatherson, Rosie Lowe, She Makes War, Sick Joy, Silverbacks, Skating Polly, Social Contract, Squid, Swimming Tapes, The Claque, The Murder Capital, Tom Ravenscroft (Set DJ), Working Men’s Club, Ynys a Zooni.
“Mae’r ail don o artistiaid yn ychwanegu haen arall o dalent anhygoel i’r leinyp” meddai Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach, sy’ gyfrifol am drefnu’r ŵyl.
“Gydag artistiaid yn dod i Gymru o bedwar ban byd, dyma gyfle euraidd i ddathlu undod cerddoriaeth yn ein prifddinas ni.
“Allwn ni ddim aros i fwynhau’r gymysgedd eclectig o synau gan enwau eiconig a wynebau newydd i’r diwydiant cerddoriaeth.
“Rydyn ni wastad wedi bod yn ymroddedig i gefnogi artistiaid newydd yng Nghlwb Ifor Bach, ac fe ddylai’r strategaeth gerddoriaeth newydd sicrhau ein bod ni’n gallu parhau i wneud hynny.”