Mae criw blog Sôn am Sîn wedi rhyddhau eu podlediad cerddoriaeth gyfoes diweddaraf.
Chris Roberts a Gethin Griffiths sy’n bennaf gyfrifol am y blog cerddoriaeth, a nhw sy’n cyflwyno’r podlediad.
Maent wedi addo cyhoeddi un podlediad bob mis yn ystod 2019, ac mae’r diweddaraf yn rhoi sylw arbennig i’r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r ddau yn trafod nifer o agweddau cerddorol yr Eisteddfod gan gynnwys perfformiad arbennig Sen Segur yn gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ynghyd â pherfformiadau Gai Toms a Carwyn Ellis yn y Tŷ Gwerin.
Maent hefyd yn trafod tipyn ar le amlwg cerddoriaeth Dyffryn Conwy yn yr Eisteddfod eleni, a’r ffaith bod Y Cyrff wedi cael cymaint o ddylanwad ar gerddorion eraill yr ardal a thu hwnt.
Ond efallai mai adran fwyaf diddorol y podlediad newydd ydy’r sgwrs ynglŷn â pherthynas yr Eisteddfod Genedlaethol gyda cherddoriaeth gyfoes erbyn hyn, a’r modd mae’r Eisteddfod yn defnyddio, ac yn llwyfannu cerddoriaeth gyfoes.
Un cwestiwn sy’n codi ydy a oes gormod o bwyslais ar lwyfannau cerddoriaeth ar y maes, ac ai lle’r Eisteddfod yn ganolog ydy trefnu popeth.
Mae’r podlediad ar gael i’w glywed ar wefan Sôn am Sîn, ynghyd ag ar y prif lwyfannau podledu arferol.