Cyhoeddi prif fandiau Llwyfan y Maes Steddfod Llanrwst

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi enwau hedleinars nosweithiol llwyfan perfformio’r maes ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst fis Awst.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae llwyfan y maes wedi datblygu i fod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd maes yr Eisteddfod, gyda slotiau’r ddwy nos Sadwrn, a’r nos Wener yn enwedig, yn uchafbwyntiau fel rheol.

Mae enwau cyfoes cyfarwydd yn llenwi slotiau cloi y llwyfan ar nifer o nosweithiau – Band Pres Llareggub, Gwilym Bowen Rhys, Mellt ac Y Cledrau yn eu mysg. Ond, mae’r ‘comebacks’ wastad yn dal y sylw, ac mae Maharishi – grŵp sydd ag aelodau o Ddyffryn Conwy’n wreiddiol – yn dychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn ar nos Sadwrn agoriadol yr Eisteddfod, 3 Awst. Ac y bytholwyrdd Dafydd Iwan a’i fand fydd yn cloi yr wythnos ar y maes.

Bydd tipyn o chwilfrydedd ynglŷn a phrif enw nos Iau y Brifwyl, gyda’r Eisteddfod yn datgelu’n unig mai ‘Gwestai Arbennig’ fydd yn perfformio.

Bydd modd archebu tocynnau maes yr Eisteddfod ar 1 Mai.

Prif artistiaid nosweithiol Llwyfan y Maes:

Sadwrn 3 Awst: Maharishi

Sul 4 Awst: Bryn Fôn

Llun 5 Awst: Gwilym Bowen Rhys

Mawrth 6 Awst: Mellt

Mercher 7 Awst: Y Cledrau

Iau 8 Awst: Gwestai Arbennig

Gwener 9 Awst: Band Pres Llareggub

Sadwrn 9 Awst: Dafydd Iwan a’r Band

 

Prif Lun: Y Cledrau @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2019 (Celf Calon / Y Selar)