Cyhoeddi rhestr fer Band neu Artist Newydd

Mae tri band gwahanol iawn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori y Band neu Artist Newydd gorau yng Ngwobrau’r Selar eleni.

Yr enw cyntaf ar y rhestr ydy’r grẃp ifanc o Gaerdydd, Wigwam, sydd wedi cael blwyddyn brysur gan gyrraedd pinacl yn Eisteddfod Bae Caerdydd. Rhyddhaodd Wigwam eu halbwm cyntaf jyst cyn yr Eisteddfod, oedd yn cynnwys caneuon ar gyfer sioe gerdd a berfformiwyd gan Ysgol Plasmawr yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod yr wythnos. Bu iddynt hefyd gyrraedd ffeinal Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru a gynhaliwyd ar lwyfan y maes.

Yr ail fand ar y rhestr ydy’r grwp hip-hop cysyniadol o’r gogledd, 3 Hwr Doeth. Rhyddhawyd ei halbwm yn ddisymwth ar ddydd Nadolig 2017. Mae 2018 wedi gweld gigs cofiadwy ganddynt yng Nglwb Ifor Bach, Neuadd Ogwen a Maes B.

Y trydydd enw i gyrraedd y rhestr fer ydy’r cerddor addawol o Ddolgellau, Lewys. Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn o ddatblygiad cyson iddo wrth iddo ffurfio band, dechrau perfformio’n fyw a rhyddhau tair sengl a fideos gyda Recordiau Cósh.

Pob lwc i’r tri – byddwn ni’n cael gwybod pwy sy’n ennill y wobr yng Ngwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar benwythnos 15-16 Chwefror.