Cyhoeddi Rhestr Fer ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’

Dau o fandiau ifanc cyffrous, a dau o fandiau label Recordiau Côsh fydd yn brwydro am wobr ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ Gwobrau’r Selar.

Rhestr fer categori y fideo cerddoriaeth ydy’r cyntaf i’w chyhoeddi ar ôl i’r bleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar gau ar nos Calan.

Fideo ‘Cysgod’ gan y grŵp o Arfon a Môn, Gwilym, ydy’r cyntaf ar y rhestr fer o dri a ddewiswyd gan y cyhoedd. Ffiliwyd y fideo gan griw Ochr 1 ym Mae Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas fis Awst, ac mae’n dal naws hafaidd yr ŵyl yn 2018

Un o artistiaid ifanc mwyaf addawol Cymru, Lewys, fydd yn mynd benben â Gwilym am y wobr gyda’i fideo ar gyfer ei ail sengl, ‘Gwres’.

Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu’n annibynnol ac fe’i gyhoeddwyd ym mis Awst. Izak Zjalic a Scott Capon fu’n gyfrifol am y gwaith ffilmio, cynhyrchu a golygu.

Ac mae wedi bod yn flwyddyn frwythlon o safbwynt fideo’r i Gwilym, sydd hefyd wedi cynhyrchu fideo annibynnol ar gyfer y trac ‘Fyny ac yn Ôl’ yn ystod 2018. Ond, y fideo ar gyfer eu sengl ‘Cwîn’ a gyfarwyddwyd gan Aled Rhys Jones ar gyfer Ochr 1 ydy’r trydydd fideo i gyrraedd y rhestr fer:

Bydd enillydd y wobr, ynghyd â gweddill categoriau Gwobrau’r Selar yn cael ei gyhoeddi yn nigwyddiad Gwobrau’r Selar yn Aberystwyth ar benwythnos 15-16 Chwefror. Mae tocynnau ar werth nawr, ac yn gwerthu’ gyflym!

Bydd lein-yp llawn Gwobrau’r Selar, ynghyd â rhestr fer arall yn cael ei gyhoeddi nos Fercher yma, 9 Ionawr.