Yr yr oes o ffrydio a lawr lwytho cerddoriaeth yn ddigidol, mae creu gwaith celf trawiadol ar gyfer cynnyrch cerddorol yn fwyfwy trawiadol.
Mae hynny’n arbennig o wir ar gyfer cynnyrch sy’n cael ei ryddhau ar ffurf caled wrth gwrs, boed ar CD neu feilyl hyfryd, ond mae hefyd yn wir wrth geisio denu sylw at gynnyrch digidol yn unig.
Mae categori gwobr y Gwaith Celf Gorau yn arbennig o bwysig i ni fel trefnwyr Gwobrau’r Selar felly, a dyma’r tri darn o gelf gweledol sydd wedi cyrraedd brig y bleidlais gyhoeddus eleni.
Y cyntaf ar y rhestr fer ydy, sengl feinyl 7 modfedd Bubblegum gan Omaloma a ryddhawyd gan Recordiau Cae Gwyn ym mis Mawrth. Mae’r gwaith celf hyfryd wedi’i ddylunio gan Mikey Burey.
Yna, gwaith celf trawiadol Aur Bleddyn ar gyfer sengl Lewys, ‘Yn Fy Mhen’.
A’r trydydd clawr i gyrraedd y rhestr fer ydy hwnnw gan Rhys Grail, gitarydd Gwilym, ar gyfer albwm cyntaf y grŵp, Sugno Gola.
Cawn weld pwy fydd yn ennill y wobr yng Ngwobrau’r Selar ar benwythnos 15-16 Chwefror!