Cyhoeddi rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig (Welsh Music Prize) wedi cyhoeddi’r rhestr fer o 12 albwm sydd â gobaith o gipio’r teitl eleni.

Wedi blwyddyn hesb llynedd a welodd dim ond un albwm iaith Gymraeg ar y rhestr fer, mae albyms Gymraeg yn llenwi bron i hanner y rhestr eleni.

Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc gan Mellt oedd yr unig record Gymraeg i gyrraedd y rhestr fer llynedd, ond mae 5 albwm Cymraeg eleni, yn ogystal ag albwm ddwy-ieithog a record hir Accü, sy’n cynnwys un trac Cymraeg.

Mae Carwyn Ellis & Rio 18, Lleuwen, Mr, VRï, Adwaith a HMS Morris i gyd wedi eu cynnwys ymysg y 12 eleni.

Dyma fydd nawfed blwyddyn y Wobr sy’n dathlu cerddoriaeth sy’n dod o Gymru, neu wedi’i greu yma.  Boy Azooga enillodd y wobr llynedd, a bydd yr enillydd eleni’n cael ei ddewis gan banel o feirniaid sy’n cynnwys Dexter Batson (Spotify), Sean Griffiths (Mixmag), Kaptin (Boomtown), Daniel Minty (Minty’s Gig Guide), Carolyn Hitt (Newyddiadurwr) a Chris Roberts (Sôn Am Sîn).

Bydd seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei gynnal yn The Coal Exchange, Caerdydd ar ddydd Mercher 27 Tachwedd ochr yn ochr â gweithgaredd arall i ddathlu cerddorion o Gymru. Bydd cymysgydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn digwydd yn ystod y prynhawn yn Sunflower & I i arddangos perfformiadau byr gan dri artist sy’n dod i’r amlwg a chyfle i rwydweithio gyda’r rhai o ddiwydiant cerdd ehangach y DU. 

Dyma’r rest fer 2019 yn gyflawn: 


Echo the Red gan Accü (Libertino Records)

Now! (in a minute) gan audiobooks (Heavenly Recordings)

Joia! gan Carwyn Ellis & Rio 18 (Banana & Louie) 

Reward gan Cate Le Bon  (Mexican Summer)

Lover Loner gan Deyah (annibynnol) 

You Say I’m Too Much I Say You’re Not Enough gan Estrons (Recordiau Gofod)

Inspirational Talks gan HMS Morris (Bubblewrap Records)

Gwn Glan Beibl Budur gan Lleuwen (Sain)

Touchy Love gan Lucas J Rowe (annibynnol)

Oesoedd gan Mr (Strangetown Records)

Melyn gan Adwaith (Libertino Records)

Tŷ ein Tadau gan VRï (Recordiau Erwydd)