Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi ac wedi bod yn cael ei ddosbarthu ledled maes yr Eisteddfod Genedlaethol, ac i’r mannau arferol ledled Cymru.
Grŵp mwyaf poblogaidd Cymru, ac enillwyr pump o Wobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni, Gwilym, sydd ar glawr y rhifyn newydd, ac mae cyfweliad swmpus gyda’r grŵp ifanc rhwng cloriau’r cylchgrawn.
Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda Hyll, Blodau Papur, a Carwyn Ellis ynglŷn a’i brosiect Rio 18.
Mae eitemau’r rhifyn hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda’r awdur Llwyd Owen am ei gywaith newydd gyda’r grŵp Yr Ods, yn ogystal â chyflwyniad i fandiau Brwydr y Bandiau Maes B / Radio Cymru eleni.
Colofnwyr gwadd y rhifyn ydy gohebydd gwleidyddol cylchgrawn Golwg, ac aelod y grŵp Ysgol Sul, Iolo Jones, a’r gantores Sera.
Mae’r rhifyn yn un swmpus, 32 tudalen, sy’n arwydd o’r hyn sydd i ddod yn y dyfodol. Bydd Y Selar yn cael ei gyhoeddi mewn print ddwywaith y flwyddyn yn hytrach na phedair gwaith, ond bod y rhifynnau’n fwy o faint. Bydd hyn yn caniatáu i’r Selar gyhoeddi llawer mwy o gynnwys yn ddigidol gan adlewyrchu bwrlwm cyson y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes.
Yn ogystal â’r rhifyn print rhad ac am ddim, mae modd darllen y rhifyn newydd yn ddigidol yn ôl yr arfer.