Cyhoeddi Sengl a fideo Fleur de Lys penwythnos yma

Mae’r grŵp o Ynys Môn, Fleur De Lys, yn paratoi i ryddhau eu sengl newydd ddydd Gwener yma, 2 Awst.

‘Dawnsia’ ydy enw sengl ddiweddaraf y grŵp poblogaidd, ac i gyd-fynd â’r sengl, maent wedi ffilmio fideo fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar wefan Y Selar ar dydd Sadwrn 3 Awst.

Daw’r gân o albwm newydd y grŵp, sydd wedi’i ysgrifennu a recordio’n barod, a sy’n y broses o gael ei gymysgu gan y cynhyrchydd o Benrhyndeudraeth, Rich Roberts.

Mae ‘Dawnsio’ yn gân pop-roc sy’n adlewyrchu sŵn cyfarwydd Fleur De Lys – caneuon ewfforig a chyffrous, sydd wedi selio eu lle fel un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd tri chyfle i weld Fleur De Lys yn perfformio yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, gyda gigs ar lwyfan y Maes ar ddydd Sul 4 Awst, Caffi Maes B ar ddydd Llun 5ed, ac ym Maes B ar y nos Iau.

Mae’r fideo, fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ar wefan Y Selar ddydd Sadwrn, wedi’i ffilmio yng ngŵyl Tafwyl, Caerdydd gan Ffotonant, sef prosiect newydd Dafydd Nant, cyn-ddrymiwr Sibrydion a Bob.

‘Dawnsio’ ydy’r trydydd sengl gan Fleur De Lys i ymddangos ar label Recordiau Côsh – ‘Sbectol’ a ‘Ti’n Gwbod Hynny’ ydy’r ddwy flaenorol sydd wedi denu dros 40,000 ffrwd ar lwyfannau digidol yn barod.

Gigs Steddfod Fleur De Lys:

Llwyfan y Maes – Sul y 4ydd

Caffi Maes B – Llyn y 5ed

Maes B – Nos Iau