Wrth i MR ryddhau ei albwm ddydd Gwener diwethaf, mae manylion taith prosiect newydd Mark Roberts yn y flwyddyn newydd wedi eu cyhoeddi hefyd.
MR ydy prosiect cerddorol diweddaraf Mark Roberts, gynt o’r Cyrff, Catatonia, Sherbet Antlers, The Earth, Y Ffyrc a Messrs.
Rhyddhawyd ei albwm cyntaf, ‘Oesoedd’ union flwyddyn yn ôl, gyda thaith hyrwyddo lwyddiannus yn dilyn ddechrau’r flwyddyn eleni.
Clwb Ifor Bach oedd yn gyfrifol am drefnu’r daith honno, a nhw sy’n gyfrifol am y daith ddiweddaraf fydd yn cael ei chynnal yn fuan yn 2020.
Bydd Clwb Ifor Bach ar Stryd y Fuwch Goch yng Nghaerdydd yn agor y daith fer ar 31 Ionawr, cyn i MR berfformio mewn tri lleoliad arall dros yr wythnosau canlynol – Y Galeri yng Nghaernarfon, Bar Seler yn Aberteifi a CellB ym Mlaenau Ffestiniog.
Dyddiadau taith 2020 Mr:
Gwener 31 Ionawr – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Gwener 14 Chwefror – Galeri, Caernarfon
Gwener 28 Chwefror – Seler, Aberteifi
Sadwrn 29 Chwefror – CellB, Blaenau Ffestiniog
Rhyddhawyd ail albwm MR, ‘Amen’, ddydd Gwener diwethaf, 25 Hydref ac mae fersiwn CD ar gael i’w brynu ar wefan www.mrcyrff.com, gydag addewid o fersiwn digidol i ddilyn yn fuan.
Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Waeth I Mi Farw Ddim’, allan ers rhai wythnosau ac eisoes yn ffefryn ar y tonfeddi ac yn glasur fodern.
Mae tocynnau’r gigs ar werth ers dydd Llun 28 Hydref o’r lleoliadau ac o wefan Clwb Ifor Bach.