Cyhoeddi Taith Wanwyn Estrons

Mae Estrons wedi cyhoeddi manylion taith ar gyfer Gwanwyn 2019.

Mae’r daith yn ychwanegol i’r gyfres o gigs mae’r grŵp wedi bod yn gwneud fel rhan o Wythnos Lleoliadau Annibynnol wythnos yma (28 Ionawr – 2 Chwefror). Maen nhw hefyd yn perfformio yn y Scala, Llundain ar 7 Chwefror gyda Lucia a Mur-man.

Bydd y brif daith Wanwyn yn dechrau ar 28 Mawrth ac yn ymweld ag unarddeg o leoliadau gan gynnwys dwy dref Gymreig sef Penybont ac Aberystwyth.

Mae’r grŵp hefyd wedi rhyddhau fideo swyddogol ar gyfer eu trac ‘Strangers’ wythnos diwethaf, a hwn i’w weld ar eu sianel YouTube nawr.

Dyddiadau llawn gigs Estrons ar gyfer Ionawr-Ebrill:

28 Ionawr: Broadcast – Glasgow
29 Ionawr: Head of Steam  – Newcastle
30 Ionawr: Portland Arms  – Caergrawnt
31 Ionawr: Parish  – Huddersfield
01 Chwefror: Record Junkies – Sheffield
02 Chwefror: Esquires – Bedford
07 Chwefror: Scala  – Llundain
28 Mawrth: Beat Generator – Dundee
29 Mawrth: The Tunnels – Aberdeen
30 Mawrth: Bongo Club – Edinburgh
03 Ebrill: Forum – Tunbridge Wells
04 Ebrill: The Empire – Coventry
05 Ebrill: Arts Centre – Norwich
06 Ebrill: Hobo’s – Penybont
10 Ebrill: Joiners  – Southampton
11 Ebrill: Sugarmill  – Stoke-on-Trent
12 Ebrill: Arad Goch  – Aberystwyth
13 Ebrill: Fulford Arms – York