Mae’r canwr-gyfansoddwr ifanc Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ddydd Gwener diwethaf, 31 Awst.
Y Cyhuddiadau ydy enw’r casgliad, ac mae ar gael yn ddigidol o’r holl fannau arferol.
Roedd y cerddor o Fethesda yn perfformio mewn gig lansio ar ei stepen drws yn Neuadd Ogwen ar y dyddiad lansio.
Pwy ydy Dafydd Hedd?
Ag yntau dal yn ddim ond 16 oed, mae Dafydd yn dod o Fethesda ac wedi bod yn perfformio ers iddo fod yn ifanc iawn.
“Fel cerddor, dwi’n dod o Fethesda, wedi bod yn perfformio ers oni’n un ar ddeg oed, ac wedi bod yn gweithio ar ysgrifennu caneuon trwy gynnig a gwella ers hynny” meddai Dafydd wrth Y Selar.
“O ran musical interests dwi’n hoffi bandiau fel The 1975, Panic at the Disco a Twenty One Pilots yn sôn am sut mae bywyd modern yn ein brifo ni fel cymdeithas.
“Yr athroniaeth yna sy’n ysbrydoli i mi ysgrifennu caneuon fel ‘Merwino’ gyda’r linell “Mae cymdeithasu di troi yn flêr, mentro siarad nawr yn her”. Hefyd dwi’n anghytuno gyda system dosbarth y DU a mae caneuon am dlodi fel ‘One in anTen’ g UB40 wedi fy helpu.”
Gwr ifanc, ond daliadau aeddfed dros ben
Yn ôl Dafydd cariad, tristwch, cymuned a bywyd modern ydy prif themâu’r albwm.
Mae’r casgliad newydd allan yn ddigidol ar Spotify, iTunes Music, Google Play neu Apple Music.
Dyma ‘Merwino’ i roi blas o’r casgliad: