Bydd Candelas a Chroma yn perfformio fel rhan o ŵyl a drefnir gan y grŵp The Joy Formidable ym mis Tachwedd eleni.
‘Gŵyl Aruthrol / Formidable Fest’ ydy enw’r ŵyl a gynhelir yn lleoliad y Tramshed yng Nghaerdydd ar 23 Tachwedd.
Yn ogystal â’r grwpiau Cymraeg, Candelas a Chroma, bydd y grŵp o Brighton, Blood Red Shoes, hefyd yn chwarae yn yr ŵyl. Mae addewid o fwy o artistiaid i’w cadarnhau.
Grŵp roc Cymreig ydy The Joy Formidable, sy’n dod yn wreiddiol o’r Wyddgrug. Yr aelodau ydy Rhiannon ‘Ritzy’ Bryan (llais a gitâr), Rhydian Dafydd (bas a llais) a Matthew James Thomas (dryms). Gan ffurfio yn 2007, maent wedi cael cryn lwyddiant ar lefel rhyngwladol. Maent wedi rhyddhau pedwar albwm, gyda’r diweddaraf, ‘Aaarth’ yn ymddangos llynedd.
Mae’r ŵyl yn rhan o daith i nodi 10 mlynedd ers rhyddhau cynnyrch cyntaf y grŵp, sef yr EP ‘A Balloon Called Moaning’.
Byddant hefyd yn perfformio yn The Bread Shed, Manceinion ar 22 Tachwedd ac yn yr Islington Assembly Hall ar 24 Tachwedd.
Byddant hefyd yn rhyddhau fersiwn albwm dwbl o’r EP fydd yn cynnwys y traciau gwreiddiol o 2009 wedi eu hail-fastro, yn ogystal â fersiwn Gymraeg acwstig ‘Y Falŵn Drom’.
Nifer cyfyngedig o 1000 copi o’r record feinyl fydd ar gael i’w prynu.
Dyma un o ganeuon Cymraeg cynnar y grŵp a ryddhawyd yn 2009, ‘Chwyrlio’: