Ers sawl blwyddyn bellach mae’r Selar wedi bod yn falch iawn i gynorthwyo Eisteddfod yr Urdd trwy guradu arlwy gerddoriaeth llwyfan perfformio y maes.
Dros y dair blynedd ddiwethaf mae hynny wedi cynnwys gig nos mawreddog i gloi yr wythnos mewn steil. Ond wrth i’r Steddfod ymweld â’r brifddinas rhwng 27 Mai a 1 Mehefin eleni, bydd ail gig nos ym Mae Caerdydd.
Ac yr wythnos hon rydan ni’n falch iawn i allu cyhoeddi lein-yp gwych gig nos Wener Steddfod yr Urdd, yn ogystal â gig y nos Sadwrn.
Band y foment, ac enillwyr pump Wobrau’r Selar eleni, Gwilym, fydd yn hedleinio’r gig cyntaf ar nos Wener ar lwyfan y maes. Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae dau o grwpiau eraill mwyaf y sin dros y blynyddoedd diwethaf – Fleur de Lys a Chroma yn cefnogi. Bydd y Bae yn bownsio bois!
Cynhaliwyd gig nos Sadwrn llwyfan y maes am y tro cyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Sir Fflint yn 2016, ac mae bellach wedi hen ennill ei blwyf fel uchafbwynt cerddorol i gloi yr wythnos.
A heb os bydd y naws parti’n gryf ym Mae Caerdydd eleni gyda neb llai na Band Pres Llareggub yn cloi arlwy yr wythnos yn eu ffordd unigryw. Dau o fandiau ifanc mwyaf cyffrous Cymru fydd yn cefnogi – Lewys, a gipiodd deitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ Gwobrau’r Selar yn gynharach eleni, a ffefrynnau mawr lleol y brifddinas, Wigwam.
Nos Wener 31 Mai, a nos Sadwrn 1 Mehefin ydy’r dyddiadau i chi nodi yn eich dyddiaduron, a Bae Caerdydd fydd y lle i fod. Bydd bar wrth law ar gyfer y rhai sydd dros ddeunaw (wrth gwrs), ond y bonws mawr arall ydy bod mynediad i Steddfod yr Urdd eleni’n rhad ac am ddim!
Mae mwy o artistiaid cerddorol yn perfformio ar y maes nag erioed eleni, a bydd cyhoeddiad ynglŷn â’r amserlenni llawn yn fuan.
Nos Wener 31 Mai – Gwilym, Fleur de Lys, Chroma
Nos Sadwrn 1 Mehefin – Band Pres Llanreggub, Lewys, Wigwam