Bydd y gantores bop electroneg, Gwenno, yn cael ei urddo i Orsedh Kernow ar ddydd Sadwrn 7 Medi.
Sefydliad digon tebyg i Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol ydy ‘Gorsedh Kernyw’.
Fe’i sefydlwyd 90 mlynedd yn ôl gyda’r nod o ddathlu diwylliant unigryw Cernyw. Yn wahanol i Orsedd y Beirdd yr Eisteddfod, gwisg las mae aelodau’r fersiwn Cernyweg yn ei wisgo.
Mae tua 500 o aelodau i’r Orsedd ar hyn o bryd, a bydd 11 unigolyn newydd yn ymuno â nhw eleni yn ystod gŵyl Gorsedh Kernow Esedhvos a gynhelir yn nhref St Just in Pen ar 7 Medi. Yn eu mysg bydd y gantores o Gaerdydd a ryddhaodd ei halbwm Gernyweg, ‘Le Kov’, ym mis Mawrth 2018.
Cafodd Le Kov groeso cynnes o sawl cyfeiriad, a chael dylanwad mawr.
Yn ôl erthygl gan y BBC, roedd 15% o dwf yn y nifer o ddisgyblion a wnaeth arholiadau iaith Gernyweg yn 2018, a hynny’n rhannol diolch i’r diddordeb yn yr iaith a ysgogwyd gan albwm Gwenno.
Mae Gwenno’n cael ei derbyn i’r Orsedd o ganlyniad i’w ‘cyfraniad i’r iaith Gernyweg trwy gerddoriaeth a’r cyfryngau’. Ymysg yr 11 arall sy’n cael eu hurddo mae Richard Cawley, am ei gyfraniad i reslo yng Nghernyw, a Kate Neale am ei gwaith yn hyrwyddo cerddoriaeth Gernyweg yng Nghernyw a thramor.
Bydd Gwenno’n derbyn ei gwisg las yn y seremoni sy’n dechrau am 14:00 ar 7 Medi.