Bydd y grŵp roc o’r gogledd, I Fight Lions, yn rhyddhau cynnyrch bach yn wahanol i’r arfer ar ddydd Gwener 8 Chwefror, sef EP o ganeuon acwstig .
Diwedd y Byd ydy enw’r casgliad byr newydd, a bydd yn cael ei ryddhau ar y cyd rhwng Recordiau Côsh a’r cwmni digwyddiadau cerddoriaeth, Syrcas.
Bydd yr EP yn cynnwys fersiynau acwstig newydd o dair o ganeuon albwm diweddaraf I Fight Lions, Be Sy’n Wir?, a ryddhawyd llynedd.
Y dair cân sydd wedi cael triniaeth acwstig ydy ‘Adweithiau’, ‘Tynnu ar y Tennyn’ a’r trac sy’n rhannu enw yr EP, ‘Diwedd y Byd’.
Dywed y band eu bod yn awyddus i wneud fersiynau ‘stripped back’ o’r caneuon ar ôl iddyn nhw wneud set acwstig yng Nghaffi Maes B yn Eisteddfod Bae Caerdydd fis Awst.
Basydd y grŵp, Dan Thomas, sydd wedi recordio, cymysgu a mastro’r caneuon newydd.
Difyr fydd clywed sut mae ‘Diwedd y Byd’, a’r ddau drac arall, yn swnio’n acwstig…