Dyddiadau ychwanegol i daith Gai Toms a’r Banditos

Mae Gai Toms wedi cyhoeddi dyddiadau ychwanegol ar gyfer ei daith hyrwyddo ar gyfer yr albwm ORIG.

Cyhoeddwyd dyddiadau a lleoliadau cyntaf y daith theatrau bythefnos nôl, gyda gigs yng Nghaernarfon, Caerfyrddin, Pwllheli, Felinfach a Dinbych ym mis Tachwedd eleni.

Roedd addewid bryd hynny o ddyddiadau pellach yng Nghaerdydd, Llan Ffestiniog ac Ysbyty Ifan.

Bellach mae manylion y gigs hynny wedi eu cyhoedd – bydd sioe yn y Duke of Wellington, Y Bontfaen ar 30 Tachwedd; Neuadd y Pentref yn Ysbyty Ifan ar 6 Rhagfyr; ac yn y Pengwern, Llan Ffestiniog ar 14 Rhagfyr. Bydd Elidyr Glyn yn cefnogi Gai Toms a’i fand, Y Banditos, ar y daith.

Dyddiadau llawn Taith ORIG:

1 Tachwedd – Galeri, Caernarfon

14 Tachwedd – Y Lyric, Caerfyrddin

15 Tachwedd – Theatr Felinfach

16 Tachwedd – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

23 Tachwedd – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych

30 Tachwedd – Duke of Wellington, Y Bontfaen

6 Rhagfyr – Neuadd y Pentref yn Ysbyty Ifan

14 Rhagfyr – Y Pengwern, Llan Ffestiniog